MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Newtown,
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Grŵp Dirprwy Bennaeth 1 £52,680 - £64,174 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 04 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Grŵp Dirprwy Bennaeth 1 £52,680 - £64,174 y flwyddyn
Pennaeth Cynorthwyol (Uned Cyfeirio Disgyblion)Swydd-ddisgrifiad
Prif bwrpas y swydd
Mae pob Uned Cyfeirio Disgyblion yn cynnig darpariaeth addysgol i ddisgyblion 7-16 oed sy'n cael eu gwahardd yn barhaol neu sydd mewn perygl o gael eu gwahardd o'u hysgol brif ffrwd yn ogystal â disgyblion eraill y mae gan yr ALl gyfrifoldeb statudol amdanynt fel merched ysgol beichiog.
Cynnig craidd pob UCD yw darparu lleoliadau tymor byr i ddisgyblion hyd at ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 gyda'r nod o ailintegreiddio llwyddiannus yn ôl i leoliad prif ffrwd. Yng Nghyfnod Allweddol 4 y nod yw cyflawni achrediad i gefnogi disgyblion i gam nesaf eu haddysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.
Beth bynnag yw cyd-destun y lleoliad caiff cynnydd pob disgybl ei asesu a'i fonitro ar bob cam o'u lleoliad er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yn parhau'n briodol ac yn canolbwyntio ar ddeilliannau.
Mae angen Gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â: Karen Jenkins - Rheolwr Cynhwysiant karen.jenkins@powys.gov.uk