MANYLION
  • Lleoliad: Llangefni, Isle of Anglesey, LL77 7HY
  • Pwnc: Swyddog Datblygu Chwaraeon
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

GORUCHWYLIWR NEUADD CHWARAEON, Tymor yn Unig (40 wythnos), Parhaol

Grwp Llandrillo Menai
Am wybodaeth bellach a ffurflen gais ewch i : https://www.gllm.ac.uk/jobs

Pwrpas y Swydd

Yn atebol i'r Rheolwr Maes Rhaglen Adeiladu dros oruchwylio unigolion sy'n defnyddio cyfleusterau Chwaraeon ac Adeiladau Gwasanaethau Cyhoeddus (Neuadd chwaraeon ac ardaloedd cysylltiedig) Byddwch yn cyflawni gweithgareddau ymarferol yn y Neuadd ac mewn ardaloedd perthnasol eraill, yn ogystal â chyflawni gweithgareddau technegydd er mwyn sicrhau bod y lleoliad yn cael ei redeg mewn modd esmwyth a diogel.

Bydd gennych gyfrifoldeb gweithredol am bob gweithgaredd sy'n cael ei gynnal yn y Neuadd Chwaraeon a byddwch yn llywio'r gwaith o farchnata a dathlu'r amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael fel rhan o'r ddarpariaeth Iechyd a Lles, gan dynnu sylw at a hyrwyddo'r cyfleoedd sydd ar gael gyda ni.

Elfen allweddol o'r rôl fydd sicrhau bod dysgwyr yn defnyddio'r cyfleusterau mewn modd priodol a diogel, cefnogi staff gyda chyfleoedd dysgu ymarferol ac asesiadau ac adnabod a chefnogi gweithgareddau technegydd mewn modd ymarferol o fewn yr adeilad Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus a lleoliadau perthnasol eraill.

JOB REQUIREMENTS
Am wybodaeth bellach ac i ymgeisio ewch i https://www.gllm.ac.uk/jobs