MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ystrad Mynach,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 4 £26,709 - £28,695
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 17 Tachwedd, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa 4 £26,709 - £28,695
Cyrnorthwyydd EMISSwydd ddisgrifiad
Dyddiad cyfweliad: 28/11/2025
Am y rôl:
I ddarparu cymorth gweinyddol a gweithredol hanfodol ar draws swyddogaethau EMIS gan sicrhau bod data yn cael ei brosesu’n gywir, bod arholiadau yn cael eu gweinyddu’n effeithiol, a bod y cynnal a chadw’r system
yn ddibynadwy. Mae’r rôl sylfaenol hon yn cynorthwyo dull integredig yr adran o fynd ati drwy ddysgu a defnyddio sgiliau ar draws arholiadau, MIS, a gweinyddu Dysgu yn Seiliedig ar Waith tra’n datblygu arbenigedd a fydd yn cyfrannu at hyblygrwydd a gwytnwch y tîm yn ystod gweithrediadau arferol ac yn ystod
cyfnodau brig.
Gwybodaeth Bellach:
Mae angen i staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd fod yn gyfrifol am ddiogelu ac am hyrwyddo lles y dysgwr.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y mae'r Coleg yn gofyn amdanyn nhw, naill ai yn eich prif weithle neu yn adeiladau eraill y Coleg, sy'n gymesur â gradd a chyfrifoldebau'r rôl.
Cydnabyddir y gall dyletswyddau a chyfrifoldebau pob swydd newid o bryd i’w gilydd a gellir diwygio disgrifiadau swydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i adlewyrchu’r newidiadau hynny sy’n gymesur â’r rôl.
Canllawiau Cais:
Yn unol â Pholisi Recriwtio’r Coleg, byddwn yn defnyddio’r Fanyleb Person i greu rhestr fer o blith yr ymgeiswyr. Dylech gynnig tystiolaeth o sut rydych yn bodloni’r holl Feini Prawf Hanfodol a amlinellir yn y Fanyleb Person, a’r Meini Prawf Dymunol os yw hynny’n berthnasol. Dylech gynnig tystiolaeth ysgrifenedig ar sut rydych yn bodloni pob un o’r Meini Prawf Hanfodol (a Dymunol os yw hynny’n berthnasol). Yn yr adran ‘Gwybodaeth Bellach’, dylech nodi tystiolaeth am sut rydych yn bodloni’r meini prawf yn yr un drefn ag y maent yn ymddangos yn y Fanyleb Person.
Noder, mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i gau’r swydd hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau yn dod i law
Cyswllt:
Am unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â people@cymoedd.ac.uk