MANYLION
  • Lleoliad: Caernarfon,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £44,075 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Diogelu a Llesiant Addysg

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £44,075 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Llion Williams ar 01286 679324 neu drwy ebost: LlionWynWilliams@gwynedd.llyw.cymru

Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076

Ebost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 19/11/2025 10:00
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Manylion Person

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL

Sgiliau cyfathrebu cryf ar lafar ac yn ysgrifenedig gyda'r gallu i gyflwyno gwybodaeth allweddol mewn ffordd eglur, clir a chryno yn hyderus.

Person sydd yn gallu cyd weithio a chymysgu yn hawdd â phobl gan ddelio a phobol yn hyderus, pwyllog a chwrtais.

Y gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm.

Person egnïol a hyblyg ei natur.

Y gallu i berthnasu yn dda gyda phlant.

Dymuniad i ddatblygu'n broffesiynol yn barhaus.

Un sy'n gallu blaenoriaethu gwaith fel bo'r angen, dangos blaengaredd ac yn cwrdd â therfynau amser penodol.

Agwedd hyblyg gyda'r gallu i weithio'n annibynnol.

DYMUNOL

-

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL

HANFODOL

Graddedig neu gyda chymhwyster cyfatebol.

Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol a phersonol parhaus.

Sgiliau ieithyddol a chyflwyno gwybodaeth a chyfathrebu da.

DYMUNOL

Statws athro/athrawes gymwysedig NEU Statws gweithiwr/gweithwraig gymdeithasol gymwysedig

PROFIAD PERTHNASOL

HANFODOL

Profiad o;

weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill

lunio a chyflwyno adroddiadau safonol

ddadansoddi gwybodaeth

bennu blaenoriaethau gwella

DYMUNOL

Profiad o;

weithio mewn amgylchedd addysgol neu o weithio yn y maes diogelu plant

weithio fel rhan o dîm llwyddiannus

gynllunio a darparu hyfforddiant

weithio gyda grwpiau bregus o blant a phobl ifanc

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL

HANFODOL

Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r prif faterion ym maes / gweithdrefnau Diogelu Plant mewn Addysg fel ei amlygir yn nghanllaw'r Llywodraeth, Cadw Dysgwyr yn Ddiogel.

Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r prif faterion a'r datblygiadau addysgol cyfredol gan gynnwys y cwricwlwm newydd.

Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r datblygiadau yn y maes diogelu fel ei amlygir yn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Sgiliau cyfathrebu cryf i allu datblygu dulliau cyflwyno ac ymgysylltu gan gynnwys dulliau digidol.

DYMUNOL

Dealltwriaeth o lwyfan Hwb Llywodraeth Cymru

Dealltwriaeth o ofynion Estyn yn y maes Diogelu plant mewn addysg.

ANGHENION IEITHYDDOL

HANFODOL

Gwrando a Siarad - Lefel Uwch

Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Darllen a Deall - Lefel Uwch

Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.

Ysgrifennu - Lefel Uwch

Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)

Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod plant a phobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

• Sicrhau arweiniad i'r Adran ac ysgolion Gwynedd yn y maes diogelu.

• Sicrhau cefnogaeth arbenigol i'r Adran ac ysgolion Gwynedd yn y maes diogelu a chefnogaeth i ddisgyblion bregus.

• Sicrhau fod dysgwyr a addysgir tu allan i'r ysgol yn ddiogel drwy ymgymryd â rôl weithredol, mewn cydweithrediad, dros eu diogelu.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Laptop, Ffon Symudol
Prif ddyletswyddau
Sicrhau bod staff yr Awdurdod sy'n gweithio â phlant yn derbyn hyfforddiant i'w harfogi i gyflawni eu cyfrifoldebau amddiffyn plant yn effeithiol.

Hyfforddiant Amddiffyn Plant

• Paratoi ac adolygu'n flynyddol becyn hyfforddiant i staff yr Adran addysg.

• Paratoi ac adolygu yn flynyddol becyn hyfforddiant i berson/nau ddynodedig, Pennaeth, a pherson dynodedig pob Corff Llywodraethol gan ei addasu a'i gadw'n gyfredol mewn cylch tair blynedd.

•n flynyddol becyn hyfforddiant gloywi er mwyn i'r person/nau ddynodedig ei gyflwyno i weddill staff yr Ysgol yn flynyddol.

• Yn unol â chanllawiau gwirio addasrwydd yr hyfforddiant yn flynyddol drwy'r Bwrdd Diogelu.

• Datblygu hyfforddiant yn barhaus er mwyn cyfarch anghenion y defnyddwyr wrth sicrhau ansawdd y deunyddiau hyfforddi.

Hyfforddiant Arall

• Datblygu hyfforddiant o'r newydd yn sgil blaenoriaeth leol neu genedlaethol.

• Gweithio gyda'r adran Dysgu a Datblygu ac asiantaethau allanol, lle'n briodol, i gynllunio a chyflwyno hyfforddiant amrywiol sydd yn gysylltiedig â'r maes diogelu plant mewn addysg.

• Datblygu pecynnau newydd i gefnogi ysgolion / darparwyr yn y maes diogelu plant yn ôl y gofyn.

Cofnodi Hyfforddiant

• Cadw cofnod o'r holl unigolion sydd wedi derbyn hyfforddiant amddiffyn plant gan nodi'n benodol fanylion yr hyfforddai a'r dyddiad.

• Gwirio fod pob Ysgol /darparwr yn cadw cofrestr hyfforddiant cyfredol o holl staff.

• Cefnogi'r (AADLl) i gadw cofnod o'r holl unigolion sydd wedi derbyn hyfforddiant arall gan nodi'r dyddiad.

Adolygu unrhyw hyfforddiant mewn ymateb i adolygiadau ymarfer plant (child practice reviews).

Sicrhau fod gan yr Adran ac Ysgolion Gwynedd bolisiau a gweithdrefnnau cyfredol ac addas.

Polisïau a Gweithdrefnau

•n flynyddol becyn o bolisïau a gweithdrefnau enghreifftiol ar bob agwedd o ddiogelu plant.

• Sicrhau fod pob polisi a gweithdrefn enghreifftiol yn cyd fynd ac arweiniad cenedlaethol a'r Bwrdd Diogelu Lleol.

• Sicrhau fod pob Ysgol yn derbyn copïau cyfredol o'r ddogfennaeth ddiweddaraf yn flynyddol.

• Sicrhau fod ysgolion Gwynedd yn gweithredu eu polisi Diogelu Plant.

•r Arweinydd Ansawdd Diogelu a Llesiant i adolygu a pharatoi o'r newydd lle bo'r angen Bolisïau a Gweithdrefnau yn ymwneud â materion allweddol a allai fod yn berthnasol i amddiffyn plant megis;

• iechyd a diogelwch, ataliaeth/ffrwyno, bwlio; tripiau ysgol, cludo disgyblion, ymweliadau preswyl, ymweliadau cyfnewid rhwng ysgolion; cyflogi plant, profiad gwaith; tynnu lluniau a defnyddio lluniau o blant; disgyblion heb le mewn ysgol; cawodydd a threfniadau newid; rhieni a helpwyr gwirfoddol eraill; cymorth cyntaf a gweinyddu meddyginiaethau; trefniadau ar gyfer clybiau ar ôl ysgol; defnyddio'r rhyngrwyd yn ddiogel; plant gyda rhieni/gofalwyr sy'n dioddef o salwch meddwl neu anabledd;n camddefnyddio cyffuriau neu sylweddau; a

• phlant mewn ysgolion preswyl y tu allan i'r awdurdod lleol.

Sicrhau fod yr Adran yn diogelu plant sydd allan o addysg prif lif yn unol â'r canllawiau.

• Diogelu a hybu lles plant sydd heb gael lle mewn ysgol, neu sydd wedi cael eu gwahardd o'r ysgol, gan gynnwys rhai sy'n cael eu dysgu mewn unedau cyfeirio disgyblion neu gan y gwasanaeth tiwtoriaid cartref.

• ran plant sy'n cael eu dysgu gartref gan rieni neu ofalwyr, meithrin perthynas effeithiol gyda'r sawl sy'n addysgu gartref i ddiogelu budd addysgol a lles plant a phobl ifanc.

Sicrhau mewnbwn yr Adran Addysg i faterion strategol.

• Cynrychioli'r Adran a chynnig arweiniad mewn cyfarfodydd cenedlaethol, rhanbarthol, ar lefel awdurdod ac mewn is grwpiau perthnasol.

• Cyflwyno adborth rheoliadd o'r cyfarfodydd i sylw'r Arweinydd Ansawdd Diogelu a Llesiant

• Cyfrannu'n llawn mewn adolygiadau ymarfer plant (child practice reviews).

Sicrhau fod yr Adran Addysg ac Ysgolion Gwynedd yn cydymffurfio a chanllawiau sydd wedi ei mabwysiadu.

Gwirio Ansawdd

• Sicrhau fod pob Ysgol yn cyflwyno gwybodaeth benodol a'r y maes diogleu plant yn flynyddol i sylw'r Corff Llywodraethol a'r Adran Addysg.

• Paratoi adroddiad blynyddol i sylw'r Arweinydd Ansawdd Diogelu a Llesiant ar gynnwys yr adroddiadau yma.

• Ymweld ag Ysgolion yn flynyddol er mwyn gwirio ansawdd eu trefniadau diogelu.

• Paratoi adroddiad blynyddol yn crynhoi ganfyddiadau'r ymweliadau gwirio ansawdd.

• Cyfeirio pryderon am ddiffyg gweithredu i sylw'r Arweinydd Ansawdd Diogelu a Llesiant.

• Cynlluniau Addysg Personol plant mewn gofal.

Sicrhau cyngor a chefnogaeth ac arweiniad priodol i ysgolion ac i staff yr Adran Addysg.

• Darparu cyngor a chefnogaeth i ysgolion, ac i uwch staff dynodedig ar ddelio ag achosion unigol.

• Darparu cyngor, arweiniad a chefnogaeth o ran:

• gwaith achos, ymddangos yn y Llys, materion cyfreithiol; deddfwriaeth newydd; rheoli adroddiadau am ddisgyblion sydd ar goll; honiadau yn erbyn staff/Llywodraethwyr; amgylchiadau penodol cam-drin, e.e. llurgunio'r organau cenhedlu mewn merched, hunan-niweidio, gorfodi i briodi, salwch ffug neu wedi'i gymell, trais yn y cartref, cam-drin plentyn gan blentyn arall, cam-fanteisio rhywiol, a mudwyr ifanc.

• Cynghori, monitro ac adrodd ar unrhyw bryder parthed trefniadau recriwtio diogel gan gynnwys Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn unol â chanllawiau gan Lywodraeth Cymru.

Sicrhau fod yr Adran Addysg ac Ysgolion Gwynedd yn cyd weithio'n effeithiol gydag asiantaethau allweddol.

• Gweithredu ar ran ysgolion lle bo'r angen i ddatrys unrhyw anawsterau gydag asiantaethau partner i gael y cymorth priodol ganddynt.

• Annog a meithrin dealltwriaeth a pherthynas weithio dda gyda gweithwyr cymdeithasol plant a staff mewn asiantaethau eraill sy'n ymwneud â diogelu plant.

• Datblygu trefniadau effeithiol ar gyfer gweithio mewn partneriaeth.

• Sicrhau fod y gwasanaeth yn rhan o broses o welliant parhaus.

• Sicrhau monitro cynnydd yn erbyn y blaenoriaethau'n unol a'r gofyn.

Cefnogi yr (AADLl) i sicrhau Ansawdd Darpariaeth Addysg i Blant o Grwpiau Bregus

• Adnabod, goruchwylio a monitro cynnydd disgyblion o grwpiau bregus.

• Cefnogi'r (AADLl) a dirprwyo ar ei ran fel swyddog cyfrifol arweiniol dros sicrhau bod trefniadau ar waith i wella profiadau a deilliannau addysgol plant sy'n derbyn gofal yr awdurdod, gan gynnwys y rhai a leolir y tu allan i'r sir.

• Cefnogi ysgolion i gynllunio'n strategol i wella canlyniadau cyffredinol disgyblion o grwpiau bregus.

• Dylanwadu ar benaethiaid a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes addysg a gwaith cymdeithasol a chydweithio â hwy i gynrychioli buddiannau disgyblion o grwpiau bregus.

• Cyfrannu at waith tîm amlddisgyblaethol.

• Ymyrryd yn uniongyrchol mewn achosion penodol.

• Adrodd ar y deilliannau a ganlyn yn rheolaidd:

oCynnydd addysgol plant sy'n derbyn gofal

oPresenoldeb

oYmddygiad a gwaharddiadau

oAnghenion lles a chymdeithasol plant o grwpiau bregus gan sicrhau eu bod yn cael eu diwallu

oEffeithiolrwydd ymyriadau

oArfer dda yn lleol ac yn genedlaethol

oCymorth ac adnoddau sydd eu hangen i gefnogi cynnydd plant

oMonitro deilliannau hirdymor plant bregus a gyrru'r broses o'u gwella.

• Sicrhau fod Cynlluniau Datblygu Unigol neu Gynlluniau Addysg Unigol yn cael eu datblygu a'u hadolygu'n addas o fewn naws y dulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Cefnogi yr (AADLl) a dirprwyo ar ran y (AADLl) ar y gwaith o sicrhau fod yr Adran yn ymateb yn gywir ac yn amserol i honiadau yn erbyn staff ysgolion a darpariaethau addysg Gwynedd.

• Dilyn trefn gytunedig i ymateb i honiadau.

•r Adran a chynnig arweniad mewn cyfarfodydd Rhan 5.

• Cynghori a chynnal Cadeiryddion Llywodraethwyr sydd yn delio a honiadau yn erbyn Penaethiaid.

• Gweithredu yr hyn a ddisgwylir o ganlyniad i ymholiadau gan y tîm derbyn.

• Gweithredu yr hyn a ddisgwylir o gyfarfodydd Rhan 5.

Goruchwyliaeth

Darparu goruchwyliaeth broffesiynol i bersonau dynodedig amddiffyn plant mewn nifer penodol o ysgolion lle bo achosion amddiffyn plant cymhleth a byw yn yr ysgol. Fe fyddai'r sesiynau yn dilyn trefn benodol ac yn gyfle i bersonau dynodedig mewn ysgolion gael cymorth a chefnogaeth arbenigol wrth gynnal eu lles ac iechyd emosiynol.

Fe fydd disgwyl i rhain fod yn sesiynau hybrid o ran yr heriau ymarferol o ran teithio.

Darparu goruchwyliaeth broffesiynol i gadeiryddion cyrff llywodraethol a phersonau dynodedig amddiffyn plant ar gyrff llywodraethol mewn nifer penodol o ysgolion lle bo achosion amddiffyn plant cymhleth a byw yn yr ysgol sydd yn ymwneud ac arweinwyr mewn ysgolion. Fe fyddai'r sesiynau yn dilyn trefn benodol ac yn darparu cymorth a chefnogaeth arbenigol wrth gynnal eu lles ac iechyd emosiynol.

Cyffredinol

• Mynychu hyfforddiant ac ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol.

• Cyfrannu at weithgareddau gwerthuso ansawdd.

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin
Amgylchiadau arbennig
• Gweithio y tu allan i oriau gwaith arferol yn ôl y gofyn.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi