MANYLION
  • Lleoliad: Pencoed,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa Gyflog 4: £25,773 - £28,599 y flwyddyn (codiad cyflog yn yr arfaeth)Cynyddu i Raddfa 5\/6: £29,004 - £35,131 ar ôl cwblhau dyfarniad asesydd (codiad cyflog yn yr arfaeth)£2,500 atodiad marchnad
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 16 Tachwedd, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Asesydd Dysgu Seiliedig ar Waith: Peirianneg Fecanyddol / Gweithgynhyrchu

Coleg Penybont

Cyflog: Graddfa Gyflog 4: £25,773 - £28,599 y flwyddyn (codiad cyflog yn yr arfaeth)Cynyddu i Raddfa 5\/6: £29,004 - £35,131 ar ôl cwblhau dyfarniad asesydd (codiad cyflog yn yr arfaeth)£2,500 atodiad marchnad

Asesydd Dysgu Seiliedig ar Waith: Peirianneg Fecanyddol / Gweithgynhyrchu

Llawn Amser/Contract Parhaol; 37 awr yr wythnos
Graddfa Gyflog 4: £25,773 - £28,599 y flwyddyn (codiad cyflog yn yr arfaeth)
Cynyddu i Raddfa 5/6: £29,004 - £35,131 ar ôl cwblhau dyfarniad asesydd (codiad cyflog yn yr arfaeth)
£2,500 atodiad marchnad

Mae'r swydd hon yn cynnwys asesu sgiliau ymarferol a gwybodaeth sylfaenol gysylltiedig sy'n gysylltiedig â rhaglenni NVQ ar lefelau 2, 3 a 4 yn seiliedig ar safle'r cwmni.

Byddwch yn gweithio gyda phobl ifanc, prentisiaid ac ymgeiswyr aeddfed sy'n dymuno cael cymwysterau cymhwysedd a gydnabyddir gan y diwydiant.

Disgwylir i chi weithio fel rhan annatod o'n tîm cyflwyno ac asesu, bydd gofyn i chi gynllunio a threfnu ymweliadau â gweithleoedd, cefnogi/mentora myfyrwyr, cynnal asesiadau ymarferol ar y safle, a chynnal cofnodion asesu myfyrwyr cysylltiedig ag adolygiadau cynnydd yn safleoedd ein cwsmeriaid ledled ardal De Cymru.

Mae'r swydd hon yn gofyn am lefel uchel o hunan gymhelliant a sgiliau trefnu i gwblhau llwyth gwaith prysur o fewn amserlenni llym.

Byddwch yn gallu dangos ystod eang o brofiad ymarferol a chymhwysedd technegol mewn Peirianneg Fecanyddol wedi'i gefnogi gan gwblhau prentisiaeth gydnabyddedig gydag o leiaf bum mlynedd o brofiad ôl-brentisiaeth a chymwysterau technegol priodol. Mae cymhwyster asesydd A1 neu D32, D33 hefyd yn ddymunol.

Pecyn Gwybodaeth Swydd

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Ymarferydd Dysgu'n Seiliedig ar Waith gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.