MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Grade 9 - £41,771 - £46,142
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Rheolwr Prosiect Moderneiddio Ysgolion

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Grade 9 - £41,771 - £46,142

Rheolwr Prosiect Moderneiddio Ysgolion

£41,771 - £46,142

Mae'r rhain yn ddwy swydd amser llawn agored, pob un yn ofynnol am 37 awr yr wythnos.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol yn y gwaith parhaus o ddatblygu a chyflawni rhaglen gyfalaf ysgolion y cyngor, rheoli'r ystad ysgolion, a datblygu'r rhaglen trefniadaeth ysgolion. Mewn perthynas â'r rhaglen gyfalaf, byddwch yn gweithredu fel y canolbwynt rhwng y Gyfarwyddiaeth Addysg (y cleient) a thimau eraill, yn enwedig ym meysydd adeiladu a gwasanaethau technegol eraill. Chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf â Llywodraeth Cymru, gan ddrafftio dogfennau allweddol i gaffael cyllid cyfalaf sylweddol, a byddwch yn goruchwylio prosiectau a ariennir o'u cychwyn i'w cwblhau, gan gynnwys sicrhau bod briffiau prosiectau a phrosiectau wedi'u cwblhau yn cydymffurfio âr holl ddeddfwriaeth/gofynion addysgol perthnasol ac amodau cyllid grant.

O ran y rhaglen trefniadaeth ysgolion, byddwch yn drafftio dogfennau ymgynghori statudol, adroddiadau ymgynghori a gwaith papur cysylltiedig, gan lynu wrth ganllawiau statudol ar y broses ar gyfer trefniadaeth ysgolion, er mwyn sicrhau bod yr ystad ysgolion o'r maint gorau posibl.

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol ddealltwriaeth drylwyr a phrofiad o weithio yn y sector addysg, ynghyd â sgiliau rheoli prosiectau cryf a phrofiad yn ymwneud â chynlluniau cyfalaf mawr a materion ystad ysgolion. Mae dealltwriaeth o'r fframwaith cyfreithiol sy'n sail i drefniadaeth ysgolion yn ddymunol.

Byddwch yn meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog a bydd gofyn i chi gynnal cydberthnasau proffesiynol ag ystod eang o bobl, gan gynnwys aelodau etholedig, prif swyddogion, penaethiaid ysgolion, amrywiaeth o weithwyr proffesiynol ym maes addysg a thechnoleg, a'r cyhoedd.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.


Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
  • Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
  • Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
  • Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.


Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol


  • Cysylltwch âr Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.