MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Pay Scale Within: £33,731 - £51,942
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 10 Tachwedd, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro/Athrawes - Ffederasiwn Ysgolion Sant Ffransis ac Enw Sanctaidd RC
Cyngor Sir Benfro
Cyflog: Pay Scale Within: £33,731 - £51,942
Cyfnod penodol i gyflenwi cyfnod sabothol athro tan 27 Mawrth 2026. Bydd y swydd hon wedi'i lleoli yn Ysgol Gynradd Gatholig Sant Ffransis, Aberdaugleddau ac mae i gyflenwi swydd aelod o staff sydd ar Gynllun Sabothol Iaith Gymraeg tan fis Mawrth 2026. Daw'r contract i ben ar 27 Mawrth 2026, neu ar ôl i ddeiliad y swydd ddychwelyd, pa un bynnag sydd gyntaf.Mae corff llywodraethu Ysgol Sant Ffransis yn chwilio am athro rhagweithiol, brwdfrydig a hyblyg i ymuno â'n tîm ymroddedig. Swydd tymor penodol 0.8 cyfwerth ag amser llawn yw hon, i gyflenwi amser cynllunio, paratoi ac asesu ac amser rhyddhau rheolwyr ar draws pob grŵp blwyddyn, yn ystod cyfnod sabothol staff.
Rydym yn ysgol â chymuned fywiog, feithringar, yn llawn ffydd, sydd wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel a gofalgar lle mae pob plentyn yn cael ei werthfawrogi a'i annog i ffynnu. Mae ein plant wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym yn credu eu bod nhw'n haeddu'r gorau.
Rydym yn chwilio am athro/athrawes sydd yn meddu ar y canlynol:
- Profiad o weithio ar draws ystod o grwpiau oedran cynradd
- Sgiliau rheoli ymddygiad rhagorol amlwg
- Yn gallu meithrin perthnasoedd cryf a chadarnhaol â disgyblion, staff a rhieni
- Dull greadigol tuag at addysgu a dysgu
- Yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o'r Cwricwlwm i Gymru a sut i'w gyflwyno'n effeithiol
- Yn meddu ar sgiliau TG da ac yn defnyddio technoleg yn hyderus i wella dysgu
- Yn deall ac yn parchu ethos Catholig ein hysgol
- Yn gallu addasu, yn drefnus, ac yn gweithio'n dda fel aelod o dîm
Croesewir ymweliadau âr ysgol, cysylltwch âr pennaeth.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 10 Tachwedd, 2025. Cynhelir cyfweliadau - i'w gadarnhau
Fideo - Cyngor Sir Penfro
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch âr Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.