MANYLION
  • Lleoliad: Penarth , Cardiff, CF64 2QN
  • Pwnc: Pennaeth
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Pennaeth

Ysgol Gymraeg Pen y Garth
Pennaeth
Angen Cyn Gynted â Phosib
Ystod Cyflog Grŵp 3: ISR L18-24

Mae'r Corff Llywodraethol yn Ysgol Gymraeg Pen y Garth yn ceisio penodi Pennaeth eithriadol sy'n gallu diweddaru, gweithredu a gyrru gweledigaeth ac ethos yr ysgol. Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn ofalgar, a dynamig a bydd ganddo sgiliau cyfathrebu ardderchog.

Mae Ysgol Gymraeg Pen y Garth yn ysgol Grŵp 3 gyda 338 o ddisgyblion ar y gofrestr gan gynnwys 55 o leoedd meithrin. Mae'r ysgol wedi'i lleoli yn nhref glan môr Penarth ym Mro Morgannwg. Mae'r ysgol yn cael ei chefnogi'n dda gan rieni, y corff llywodraethu a'r awdurdod lleol.

Arolygwyd yr ysgol ddiwethaf yn 2016. Ar yr adeg hon barnwyd bod perfformiad a rhagolygon yr ysgol ar gyfer gwella yn dda. Ar hyn o bryd, mae gan yr ysgol lawer o gryfderau ond mae Llywodraethwyr hefyd yn cydnabod bod nifer o feysydd pwysig i'w datblygu sy'n cynnwys; datblygu'r cwricwlwm, lles, darpariaeth ADY a chyfathrebu â rhanddeiliaid.

Am y Rôl
Rydym yn chwilio am bennaeth a fydd yn:

• Ymrwymo'n llawn i godi proffil yr ysgol.
• Meddu ar sgiliau arwain rhagorol, gyda hanes y gellir ei brofi.
• Angerddol am addysg cyfrwng Cymraeg gan gynnwys cyd-adeiladu cynlluniau strategol i gynyddu nifer y dysgwyr.
• Ysbrydoli ac ysgogi dysgwyr a staff.
• Sicrhau bod cwricwlwm yr ysgol yn ddiddorol, yn gyffrous ac yn ddifyr!
• Sicrhau bod lles dysgwyr a staff yn ganolog i bob penderfyniad, datblygiad a gweithred.
• Dangos ymagwedd gynhwysol tuag at addysgu a dysgu pob disgybl.
• Gwbl ymrwymedig i ddatblygu perthynas waith gref â; dysgwyr, staff, rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned leol.
• Gallu dangos profiad amlwg o reolaeth ariannol gref a dadansoddi perfformiad.

Yn ein tro, gallwn ninnau gynnig:

• Y cyfle i sicrhau gwelliannau allweddol gyda chefnogaeth cymuned yr ysgol.
• Dysgwyr brwdfrydig a llawn cymhelliant sy’n awyddus i ddysgu.
• Tîm staff profiadol sydd wedi ymrwymo i newid cadarnhaol er mwyn datblygu'r ysgol ymhellach.
• Corff llywodraethu ymroddedig ac angerddol a fydd yn darparu arbenigedd, cefnogaeth a her.

Amdanat ti
Oes angen gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd?: Manwl

Angen cofrestru gyda’r CGA: Mae'n ofyniad statudol bod yn rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y swyddi hyn gael eu cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg cyn y gallant ddechrau gweithio mewn ysgol. Os nad ydych eisoes wedi cofrestru, mae gwybodaeth bellach, gan gynnwys sut i gofrestru, ar gael yn www.ewc.wales

Sut i wneud cais
Mae ffurflenni cais a manylion pellach ar gael gan Ganolfan Gyswllt Un Fro ar 01446 700111. Dylid dychwelyd ceisiadau drwy e-bost at Jeremy Morgan yn yr Uned Cymorth i Lywodraethwyr, JMorgan@bromorgannwg.gov.uk

Os ydych yn ystyried gwneud cais ac yr hoffech ymweld â'r ysgol naill ai ddydd Llun 20 Mehefin, dydd Mawrth 21 Mehefin neu ddydd Mercher 22 Mehefin cysylltwch â Jeremy Morgan drwy e-bost (uchod) neu ffoniwch 01446 709108. Os oes gennych unrhyw ymholiadau cychwynnol cysylltwch â Jeremy.