MANYLION
  • Lleoliad: See Job Advertisement,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: £19,643 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Blynyddoedd Cynnar

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £19,643 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

Lleoliad - Caernarfon

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Sioned Ann Owen ar 01286 678 824 neu drwy e-bost: SionedOwen@gwynedd.llyw.cymru

Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076

E-Bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru

DYDDIAD C AU: 31/10/2025

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Pecyn Recriwtio Plant a Chefnogaeth Teuluoedd.pdf

Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
Y gallu i berthnasu'n dda â phlant ac oedolion.

Gweithio'n adeiladol fel rhan o dîm.

Parodrwydd i dderbyn cyfrifoldebau a chyfrannu syniadau

Brwdfrydig a hyblyg

Personoliaeth Ddigynnwrf

Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
Sgiliau rhif/llythrennedd da.

NVQ2 ar gyfer Cymorthyddion Addysgu neu gymhwyster cyfwerth , neu yn fodlon ymgymryd â'r cwrs yn dilyn penodiad.

Trwydded gyrru
Dymunol
Wedi dilyn hyfforddiant llwybr dysgu i gymorthyddion dysgu - 'Rhaglen Ymsefydlu'

Hyfforddiant Cymorth Cyntaf

Hyfforddiant Diogelu Plant

Hyfforddiant mewn strategaethau perthnasol i gefnogi dysgu, e.e. Elkan /llythrennedd/ rhifedd
Profiad perthnasolHanfodol
• Gweithio gyda phlant o'r oedran cyn ysgol neu Gyfnod Sylfaen.
Dymunol
Profiad o weithio gyda grwpiau bychain o blant

Profiad o waith cynorthwyo mewn dosbarth neu mewn lleoliad gofal plant

Profiad o weithio gyda disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
Deunydd effeithlon o TGaCh

Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da

Y gallu i sefydlu a chynnal perthynas dda gyda eraill.
Dymunol
Dealltwriaeth o'r maes Blynyddoedd Cynnar
Anghenion ieithyddolGwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).

Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

• Cefnogi lleoliadau blynyddoedd cynnar a'r plant sydd yn y lleoliadau

• Gweithredu'r CiG, gofynion Dechrau'n Deg a'r Cod ADY

• Sefydlu perthynas weithiol, effeithiol gyda'r Arweinyddion a'r plant gan weithredu fel unigolyn proffesiynol.

• I weithio o dan reolaeth a goruchwyliaeth y tim athrawon ymghynghorol a chyd weithio i gyrraedd rhaglen waith y tim dan oruchwyliaeth y Grŵp Ansawdd Blynydoedd Cynnar
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Ffon Symudol

• Offer TG
Prif ddyletswyddau
Cefnogaeth i Arweinyddion

• Darparu mewnbwn yn y Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar o dan Arweiniad yr Athrawon Ymgynghorol yn unol â gofynion y Grŵp Ansawdd Blynyddoedd Cynnar

• Cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu cynlluniau datblygu y lleoliadau

• Cyd-weithio gydag Athrawon Ymgynghorol y Blynyddoedd Cynnar i sicrhau ansawdd ar draws y Sir.

• Cydweithio gyda Cymorthyddion o fewn Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar i fodelu pecynnau ymyrraeth effeithiol gyda'r disgyblion sydd ar lefel targedu.

• Defnyddio TGCh yn effeithiol i gefnogi gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth disgyblion yn ei ddefnydd.

• Sefydlu perthynas weithio gynhyrchiol gyda'r athrawon, cydweithwyr a'r lleoliadau.

• Rhannu arferion da gyda staff o fewn Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar a modelu technegau yn ôl yr angen.

• Cydweithio gyda staff eraill fel tîm iaith a Chwarae, tîm ADY, tîm Dechrau'n Deg i gefnogi'r lleoliadau

• Cefnogi lleoliadau i weithredu ar dargedau, hwyluso cynnwys Proffil Un Tudalen gan gynnig syniadau a'r weithredu gofynion arbenigwyr yn y maes. Cynnig syniadau/deunyddiau a gweithgareddau dysgu fel y bo'n briodol.

• Monitro a gwerthuso ymateb a chynnydd disgyblion yn erbyn cynlluniau gweithredu drwy arsylwi a chofnodi.

• Darparu adborth ac adroddiadau gwrthrychol a chywir i staff eraill ar gyflawniad, cynnydd a materion eraill disgyblion, gan sicrhau fod tystiolaeth briodol ar gael.

• Cyfrannu at gefnogi lleoliadau i fod yn lleoliadau Cyfathrebu Cyfeillgar, lleoliadau cyn Ysgol iach, lleoliadau sy'n gallu bod yn ran o ddarpariaeth lleoliadau coedwig/arfordirol, lleoliadau diogel sy'n rhoi lles a hapusrwydd plentyn yn gyntaf a lleoliadau sy'n rhoi ffocws ar sicrhau ansawdd a safon ar draws y meysydd dysgu.

• Sefydlu perthynas adeiladol gyda arweinyddion a phlant, gan gyfnewid gwybodaeth ddilys a diweddar er mwyn sicrhau datblygiad amserol a chyfredol.

Cefnogaeth i blant

• Gweithio gyda grwpiau bychan o blant e.e. modelu y ddarpariaeth fel egwyddorion Elkan, darllen stori a.y.b

• Rhoi llais y plentyn a thrywydd y plentyn yn flaenoriaeth

• Cynnig syniadau a'r dysgu posib fel bod y safonau a gwybodaeth y plant yn cael eu hymestyn yn amserol a chyson.

• Drwy fod a gwybodaeth gadarn am ddatblygiad plentyn y gallu i gynnig camau perthnasol yn unol a charreg filltir y plentyn.

Cefnogaeth i'r Cwricwlwm

• Cynllunio a Gweithredu gweithgareddau dysgu sy'n cyd fynd a gofynion y Cyfnod Sylfaen a'r CiG.

• Bod yn ymwybodol a gwerthfawrogi ystod o weithgareddau, cyrsiau, sefydliadau ac unigolion, ar gyfer darparu cefnogaeth i'r lleoliadau i ehangu a chyfoethogi eu dysgu.

• Cydweithio gyda'r Uwch Athrawes i weithio ar prosiectau amrywiol e.e. cynlluniau y grant GDDBC ac adrodd fel sydd angen ar berfformiad y prosiect

Cyffredinol:

• Ymwybyddiaeth o bolisïau a gweithdrefnau'r Awdurdod, Mudiad Meithrin, AGC, ADY a Diogelu plant.

• Sefydlu perthynas adeiladol a chyfathrebu gydag asiantaethau eraill er mwyn cefnogi cyflawniad a chynnydd y lleoliad a'r disgyblion.

• Mynychu cyfarfodydd rheolaidd a chymryd rhan ynddynt.

• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill, fel y bo'n ofynnol.

• Adnabod hunan gryfderau ac ardaloedd arbenigedd a defnyddio'r rhain i gynghori a chefnogi eraill.

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
• Gweithio tymor ysgol yn unig

• Angen gweithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi