MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Blank
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Blank
Athro Dosbarth (Ysgol Gynradd Pontsenni)Swydd-ddisgrifiad
Athro/athrawes llawn amser ar gyfer swydd dros gyfnod penodol am ddau dymor (Gwanwyn a Haf) yn dechrau ym mis Ionawr 2026.
Mae Llywodraethwyr Ysgol Pontsenni am benodi athro/athrawes dosbarth sydd â chymwysterau addas i addysgu fel rhan o dîm cryf am 2 dymor.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dîm ysgol egnïol a rhaid eu bod yn meddu ar ddisgwyliadau, safonau ac ymrwymiad uchel iawn.
Rydym yn chwilio am athro/athrawes sydd:
· yn ymarferydd dosbarth rhagorol sydd â gwybodaeth dda am addysgu ar draws yr ysgol o Ddosbarth Derbyn i flwyddyn 6,
· yn meddu ar ddealltwriaeth o'r Cwricwlwm newydd i Gymru,
· â disgwyliadau uchel o ddysgu ac ymddygiad,
· yn gweithio'n dda fel rhan o dîm
· yn fodlon dangos ymrwymiad i fywyd ehangach yr ysgol a gweithgareddau allgyrsiol.
Yn gyfnewid am hyn, gallwn gynnig i chi:
· Tîm ymroddedig o staff a llywodraethwyr.
· Disgyblion cyfeillgar a brwdfrydig.
· Amgylchedd dysgu gofalgar sydd ag adnoddau da iawn.
· Partneriaeth gref gyda rhanddeiliaid.
Mae'r parodrwydd i ddysgu Cymraeg fel ail iaith yn hanfodol.
Gofynnir i ymgeiswyr roi gwybod i ni am eu cryfderau a'u diddordebau cwricwlaidd. Mae croeso i ymgeiswyr ymweld â'r ysgol neu drafod y swydd gyda'r Pennaeth, Mrs Keri Harry.
Croesewir ceisiadau gan ANG.
Mae ein hysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles pawb yn ein gofal. Mae'r swydd hon yn
amodol ar eirdaon boddhaol, DBS manwl a phob cliriad perthnasol arall.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 29 Hydref 2025
Creu rhestr fer: 3 Tachwedd 2025
Cyfweliadau: 11 Tachwedd 2025