MANYLION
  • Lleoliad: Tregaron,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 32,433 - 49,944 *
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes - Ysgol Gynradd Rhos Helyg

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 32,433 - 49,944 *

Ynglŷn â'r rôl
Dyma hysbyseb am swydd dros dro - athro/athrawes Cyfnod Allweddol 2 (0.4 - 2 ddiwrnod) lle mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol.

Mae Ysgol Gynradd Rhos Helyg yn ysgol 4 - 11 oed, gyda 52 o ddisgyblion ar y gofrestr wedi eu rhannu rhwng dau gampws - Campws Rhos y Wlad, Bronant a Champws Llangeitho. Mae'r ysgol yn darparu cyfle gwych i ymgeiswyr goleuedig gyd-weithio ar draws y ddau gampws gan rannu arbenigeddau a phrofiadau ac ymuno â'n tîm gweithgar ac ymroddedig.

Gellid darganfod mwy o wybodaeth am yr ysgol, gan gynnwys dod o hyd i'n gweledigaeth ar y ddolen isod:

Ysgol Rhos Helyg

Mae'r Llywodraethwyr am benodi Athro/Athrawes effeithiol, ysbrydoledig a brwdfrydig. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar y wybodaeth a'r sgiliau i ddatblygu pob disgybl hyd eithaf ei (g)allu. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn ymarferydd ardderchog o fewn y dosbarth gyda disgwyliadau uchel ac ymrwymiad i gynnal a chodi safonau. Bydd y gallu i gydweithio'n effeithiol fel rhan o dîm ymroddgar mewn partneriaeth â disgyblion, staff, rhieni, y llywodraethwyr a'r gymuned leol yn hanfodol.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Am fwy o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu â Phennaeth Ysgol Rhos Helyg, Mr Efan Williams ar 01974 251238, 01974 821615 neu williamse1348@hwbcymru.net

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Tregaron Tref farchnad yw Tregaron wedi'i lleoli ar ochr orllewinol Mynyddoedd Cambria.
Darllen mwy