MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Aberystwyth,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: 26,403 - 27,694 *
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 05 Tachwedd, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: 26,403 - 27,694 *
Ynglŷn â'r rôlRydym yn ceisio penodi Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 a fydd yn ymuno â thîm brwdfrydig ac ymroddedig sy'n gweithio gyda myfyrwyr sydd â chefnogaeth gan yr Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ym Mhenglais. Bydd prif ffocws eich gwaith yn cynnwys eu cefnogi gyda'u ymyrraeth llythrennedd. Bydd y swydd yn amrywio yn dibynnu ar anghenion y myfyrwyr ac anghenion yr athro mewn gofal.
Bydd yr ymgeisydd cywir yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur. Bydd gofyn i chi ddefnyddio eich menter eich hun i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael mynediad i'r cwricwlwm a'u bod yn gwneud cynnydd da yn eu dysgu. Mae hon yn rôl a fyddai'n addas i unigolyn uchelgeisiol sydd â diddordeb gwirioneddol mewn cefnogi myfyrwyr i gyflawni eu potensial.
Mae gan Ysgol Penglais lawer i'w gynnig:
- ysgol sydd yn seiliedig ar waith ymchwil gyda pherthnasau da rhwng staff a disgyblion
- ymroddiad i ddatblygiad proffesiynol staff er mwyn cyrraedd rhagoriaeth
- agos i dref Prifysgol bywiog Aberystwyth
- wedi ei leoli ar arfordir bendigedig bae Ceredigion, ardal o hyfrydwch naturiol
Am fwy o fanylion, cysylltwch a Helena Clements (PA i'r Pennaeth) ar 01970 624811 neu drwy e-bost hcl@penglais.org.uk
Mae Ysgol Penglais yn gyflogwr sydd yn sicrhau cyfleoedd cyfartal.
Pecyn Gwybodaeth
Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 10 Tachwedd 2025
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy