MANYLION
- Lleoliad: Aberystwyth,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: 24,413 *
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1 - Ysgol Gynradd Llangwyrfon
Cyngor Sir Ceredigion
Cyflog: 24,413 *
Ynglŷn â'r rôlMae'r canlynol ar gyfer Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1 lle mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol.
Mae'r Llywodraethwyr am benodi:Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel 1 i gydweithio gyda staff a disgyblion Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio gyda grwpiau ac unigolion er mwyn sicrhau lles a chynnydd pob disgybl.
Mae hon yn swydd wag amser llawn am gyfnod o flwyddyn i gychwyn ac ddechrau cyn gynted a phosib.
Mae Ysgol Gynradd Llangwyryfon yn ysgol 4 - 11 oed, gyda 24 o ddisgyblion ar y gofrestr. Ein gweledigaeth yw: darparu cyfleon a mynediad at cwricwlwm eang, diddorol ac ysbrydoledig er mwyn datblygu dysgwyr annibynnol, effeithiol, brwdfrydig, dwyieithog, a'u paratoi i fod yn ddysgwyr gydol oes.
Fe fydd gofyn i chi:
- goruchwylio a chefnogi pob disgybl gan sicrhau eu bod yn ddiogel a bod ganddynt fynediad at ddysgu;
- rhoi adborth i ddisgyblion ynghylch cynnydd, cyflawniad, ymddygiad, presenoldeb, ac ati;
- hyrwyddo cynhwysiant a derbyniad i'r holl ddisgyblion;
- annog disgyblion i ryngweithio ag eraill ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau o dan arweiniad yr athro neu'r athrawes;
- annog disgyblion i weithredu'n annibynnol, fel y bo'n briodol.
- cefnogi'r Athro neu'r Athrawes gyda paratoadau dosbarth gan fod yn ymwybodol o broblemau/cynnydd/cyflawniadau disgyblion a chadw cofnodion disgyblion yn unol â'r cais
Rydym am benodi unigolyn sydd â:
- sgiliau rhifedd / llythrennedd / TGCh cadarn;
- cymryd rhan mewn cyfleoedd datblygu a hyfforddi;
- gweithio'n adeiladol a hyblyg yn rhan o dîm, deall cyfrifoldebau a swyddogaethau'r ystafell ddosbarth a'ch safle bersonol o fewn y swyddogaeth hynny.
Fe fydd yr ymgeisydd perffaith yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur, drwy ddefnyddio'u menter, gydag rhagolwg bositif a gwir ddiddordeb yn cefnogi anghenion dysgu'r disgyblion gan fwynhau pob sialens o fewn gofynion y dosbarth a'r byd addysg.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg er mwyn cael ei benodi/phenodi i'r swydd hon.
Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn ac fe fydd yr ysgol yn gofyn am gofnod manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, SCT gynt (Enhanced DBS formerly CRB).
Dyddiad cyfweliad: i'w gadaarnhau.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am fwy o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu â'r Pennaeth Miss Nerys Parry ParryN69@hwbcymru.net
Nodyn: Rydym yn cadw'r hawl i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant a phobl ifanc agored i niwed i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym ni a'n sefydliadau addysgol yn cydnabod bod gan blant a phobl ifanc hawl i gael eu hamddiffyn a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu eu lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn, a byddwn yn gofyn am Wiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), a elwid gynt yn CRB.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Darllen mwy