MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 3 Pwynt 3 i Bwynt 4 £24,796 i £25,185 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.85 i £13.05 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 16 Tachwedd, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu (Cynradd) Lefel 1 (Ysgol Dolafon)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 3 Pwynt 3 i Bwynt 4 £24,796 i £25,185 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.85 i £13.05 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu (Cynradd) Lefel 1 (Ysgol Dolafon)
Swydd-ddisgrifiad
Cynorthwy-ydd Addysgu
Yn dechrau ar 1 Ionawr 2026
Mae llywodraethwyr Ysgol Dôlafon am benodi Cynorthwy-ydd Addysgu anogol a brwdfrydig i ymuno â staff ein hysgol hapus. Ein nod yw darparu amgylchedd anogol, cynhwysol a chyfoethog sy'n annog cariad gydol oes tuag at ddysgu.
Rydym am benodi Cynorthwy-ydd Addysgu brwdfrydig, llawn cymhelliant, sy'n frwd dros gefnogi dysgu a meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda phlant ag ystod o anghenion, ac sydd â'r wybodaeth, y sgiliau a'r galluoedd i wneud hynny.
Byddwch yn gweithio o dan arweiniad ein staff addysgu i weithredu a goruchwylio gweithgareddau dysgu y cytunwyd arnynt gyda disgyblion unigolyn a grwpiau bach o ddisgyblion, yn yr ystafell ddosbarth neu y tu allan iddi. Gall hyn gynnwys cynorthwyo i gynllunio, paratoi a chyflwyno'r gweithgareddau dysgu, yn ogystal â monitro disgyblion, asesu, cofnodi ac adrodd ar gyflawniadau, cynnydd a datblygu, o dan gyfarwyddyd yr
athro/athrawes ddosbarth.
Fel rhan o "Un Teulu Mawr", byddem yn croesawu'r cyfle i gynnig:
• Cefnogaeth ein Pennaeth Gweithredol profiadol, tîm ymroddedig a Chorff Llywodraethu a chymuned gefnogol
• Tiroedd ysgol ac ardal addysgu helaeth, gydag adnoddau da
• Disgyblion cyfeillgar
Mae ein hysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles pawb yn ein gofal. Mae'r swydd hon yn amodol ar eirdaon boddhaol, DBS manwl a phob cliriad perthnasol arall.
Mae croeso i chi gysylltu âr Pennaeth, Mr Chris Davies, gydag unrhyw gwestiynau neu am drafodaeth anffurfiol.
Ffôn:
01591 610326
E-bost:head@dolafon.powys.sch.uk

Dyddiadau Allweddol:

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 16 Tachwedd 2025
Creu rhestr fer: 17 Tachwedd 2025
Cyfweliadau: 19 Tachwedd 2025