MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff , Cardiff, CF10 3NQ
  • Testun: Gwaith Ieuenctid
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: 01 September, 2022
  • Dyddiad Gorffen: 01 September, 2024
  • Math o gyflog: Dyddiol
  • Salary Range: £0.00 - £198.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Gorffennaf, 2022 11:55 y.p

This job application date has now expired.

Cadeirydd newydd Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid - Cymraeg yn Hanfodol

Cadeirydd newydd Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid - Cymraeg yn Hanfodol

Llywodraeth Cymru
Rwyf wrth fy modd yn cael cyhoeddi bod Sharon Lovell MBE wedi ei phenodi’n Gadeirydd ar y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd. Mae’r Bwrdd newydd hwn wedi’i sefydlu i weithredu argymhellion uchelgeisiol adroddiad y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, ‘Mae’n bryd cyflawni dros bobl ifanc’, a gyhoeddwyd ym Medi 2021. Cyhoeddais fy mwriad i sefydlu’r Bwrdd hwn yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 20 Rhagfyr ynghyd â dyraniad o £11.4m dros dair blynedd tuag at weithredu argymhellion y Bwrdd Dros Dro.

Bydd y newidiadau rydym am eu gwneud mewn ymateb i argymhellion y Bwrdd yn helpu i greu sylfaen gref ar gyfer gwaith ieuenctid er mwyn llunio model cynaliadwy. Mae hyn yn rhan o’m hymrwymiad ehangach i wneud yn siŵr bod lles a hawliau plant yn gwbl ganolog i’n holl ddiwygiadau.

Mae penodi Sharon yn golygu y bydd gennym Fwrdd o hyd sydd ag arweinydd profiadol a gwybodus ym maes gwaith ieuenctid, ac rwy’n hyderus y bydd ei hangerdd a’i brwdfrydedd yn helpu i sicrhau canlyniadau.

A’r Cadeirydd bellach yn ei swydd, mae’n bleser gen i gyhoeddi bod y broses o recriwtio aelodau i’r Bwrdd bellach ar y gweill. Rwy’n annog ystod eang o bob math o bobl i wneud cais gan fy mod am sefydlu Bwrdd amrywiol. Bydd Sharon yn gweithio gyda’r panel recriwtio a’r Pwyllgor Pobl Ifanc i greu Bwrdd sydd â’r wybodaeth a’r arbenigedd sydd eu hangen i sicrhau ein bod yn datblygu gwasanaethau gwaith ieuenctid ar gyfer ein holl bobl ifanc. Rhaid i hynny gynnwys cyfleoedd mwy cyfartal ac amrywiol, lle bynnag y mae pobl ifanc yn byw. Mae mynd ati’n ddi-oed i sefydlu’r Bwrdd yn hanfodol er mwyn inni allu adeiladu ar sail y momentwm a grëwyd gan waith y Bwrdd Dros Dro, a’r gwaith ymgysylltu â’n rhanddeiliaid a phobl ifanc, gan gynnwys drwy’r Pwyllgor Pobl Ifanc a Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth.

Unwaith eto, rwyf am ddiolch i aelodau’r Bwrdd Dros Dro, y Pwyllgor Pobl Ifanc a’r sector ieuenctid ehangach am eu cyfraniad gwerthfawr at waith ieuenctid, ac am ddod â ni i’r pwynt hwn. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Bwrdd newydd wrth inni symud tuag at y cyfnod gweithredu hwn.

I wneud cais, ewch i'r dudalen penodiadau cyhoeddus ar wefan Llywodraeth Cymru
JOB REQUIREMENTS
Gweler y disgrifiad swydd a manyleb y person atodedig.