MANYLION
  • Lleoliad: Canolfan Rheidol, Aberystwyth,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 43,483 - 53,995 *
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Seicolegydd Addysg x 2

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 43,483 - 53,995 *

Ynglŷn â'r rôl
Graddfa Soulbury A 1-6 ynghyd â 3 phwynt SPA.

Rhoddir ystyriaeth i ddechrau ar gyflog uwch i'r ymgeisydd eithriadol. Cysylltwch ag Angharad Behnan i drafod ymhellach.

Hysbyseb yw hon ar gyfer 1 swydd barhaol ac 1 swydd dros dro i lenwi cyfnod mamolaeth. Nodwch yn eich cais a ydych chi'n gwneud cais am y swydd barhaol, y swydd dros dro, neu'r ddwy.

Disgrifiad y rôl

Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg: Dymunol (Bydd yr Awdurdod yn cefnogi'r ymgeisydd llwyddiannus i ddatblygu'r iaith tra yn y swydd).

Mae Ceredigion yn ardal wledig, brydferth gydag arfordir dramatig a chymunedau llawn bwrlwm. Mae'n sir sy'n gyfoethog o ran hanes, diwylliant a chymuned. Mae ysgolion Ceredigion yn anelu at ddarparu'r safonau uchaf o ran addysg ac mae perthynas da iawn rhwng yr ysgolion a gwasanaethau canolog y Sir.

Rydym yn edrych am seicolegydd addysg i ymuno a'n gwasanaeth hapus a brwdfrydig, ac sy'n rhan o dîm ehangach Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant a Lles. Mae'r gwasanaeth yn uchel ei pharch o fewn Gwasanaethau Ysgolion.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddarparu amrediad llawn o wasanaethau seicolegol o fewn Sir Ceredigion er mwyn creu newid, codi safonau a sicrhau cynhwysiant addysgol. Rydym yn cyd-weithio'n llwyddiannus gydag ysgolion ac yn gweithredu dull o ganolbwyntio ar ddatrysiad. Rydym yn gweithredu mewn dull ataliol, gyda'r rhyddid i ddefnyddio amrediad o ddulliau seicolegol i wneud gwahaniaeth i ddisgyblion.

Rydym yn croesawi ymgeiswyr sy'n medru dechrau yn syth neu o fewn y 4- 6 mis nesaf.

Er mwyn cynnal safonau moesegol mae'n hanfodol i'r ymgeisydd fod wedi'i gofrestru, a chynnal cofrestriad parhaus, gyda'r HCPC.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch ag Angharad Behnan, Prif Seicolegydd Addysg ar ebost Angharad.Behnan@ceredigion.gov.uk er mwyn trefnu sgwrs ffôn.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Canolfan Rheidol Mae ein swyddfa yn Aberystwyth, Canolfan Rheidol, yn adeilad sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r swyddfa, gyda'i dyluniad cynllun agored, yn darparu lle rhagorol ar gyfer gweithio ar y cyd.
Darllen mwy Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy