MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Grade 7 | £34,434 - £39,152
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Safeguarding & Equalities Support Officer

Torfaen Local Authority

Cyflog: Grade 7 | £34,434 - £39,152

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllawiau i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a hunan-ysgogol i weithio ar y cyd ar draws y gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. Byddwch yn cefnogi'r Swyddog Diogelu a Chydraddoldeb i sicrhau bod pob ysgol a sefydliad addysg yn cydymffurfio â pholisi a chanllawiau mewn perthynas â diogelu a chydraddoldeb.

Mae'r swydd hon, sy'n hynod o werth chweil, yn golygu y bydd angen gweithio ochr yn ochr ag ystod o bartneriaid a sefydliadau gan gynnwys Ysgolion, Gofal Cymdeithasol Plant, yr Heddlu ac Adnoddau Dynol i hyrwyddo diogelwch a lles plant a phobl ifanc ar draws y Gwasanaeth Addysg.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhoi cyngor ac arweiniad i hyrwyddo, dangos a monitro arferion gorau o ran diogelu a chydraddoldeb, gan sicrhau eu bod yn gweithredu yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru (2019), Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a deddfwriaeth a chanllawiau statudol eraill sy'n berthnasol.

Byddwch wedi profi fod gennych brofiad o weithio mewn swyddfa, yn gallu cyfathrebu'n effeithiol, cadw cyfrinachedd a bod gennych wybodaeth dda o raglenni Microsoft Office.

Os ydych chi'n angerddol am wneud gwahaniaeth, ac yn ffynnu mewn amgylchedd cydweithredol, carem ni glywed gennych.

Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd wag hon, cysylltwch â Bridie Saunders, 01633 647223 neu Bridie.saunders@torfaen.gov.uk

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.

Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.