MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Anghenion Dysgu Ychwanegol - Mewnol yn Unig

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Swyddog Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar

Contract neu secondiad dros dro llawn amser

Graddfa 09 £37,220 - £40,777 y flwyddyn

Mewnol yn Unig

Oes gennych chi wybodaeth ragorol am ddatblygiad plant?

Ydych chi'n angerddol am gefnogi plant ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol?

Ydych chi'n gallu meithrin perthnasoedd gwaith da gyda rhieni, ymarferwyr a phlant ifanc?

Oes gennych chi sgiliau llythrennedd rhagorol?

Ydych chi'n ddigon hyblyg i weithio mewn amgylchedd prysur ar hyd a lled bwrdeistref Wrecsam?
I ddechrau bydd y swydd yn secondiad, i gefnogi gweithredu'r Ddeddf ADY yn Wrecsam.

Bydd y swydd hon yn secondiad gyda'r Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol i ddechrau, hyd at fis Gorffennaf 2026.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio i gefnogi tîm Cynhwysiant Wrecsam, a bydd yn cydlynu'r gwaith o ddarparu darpariaeth ddysgu ychwanegol i blant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth, gan ddod â theuluoedd, gweithwyr iechyd proffesiynol, athrawon ac arweinwyr ysgolion ynghyd.

Mae'r swydd yn gofyn am ymarferydd profiadol a brwdfrydig gyda gwybodaeth a dealltwriaeth ragorol o ddatblygiad plant. Nid oes rhaid iddo fod yn athro cymwysedig. Bydd yn gweithio fel aelod gwerthfawr o Dîm Cynhwysiant Wrecsam, a bydd yn gallu rhannu sgiliau, a hyfforddi eraill i ddarparu ymyriadau o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos dealltwriaeth dda o'r datblygiadau cyfredol ym maes addysg, bydd ganddo ymagwedd hyblyg, a bydd yn gallu cefnogi ymarferwyr a phlant mewn ysgolion ledled sir Wrecsam. Bydd yn gallu defnyddio ei arfer da ei hun wrth arwain adolygiadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, llunio deilliannau priodol ar gyfer plant sydd ag oedi sylweddol, a chyfrannu tuag at Gynlluniau Datblygu Unigol.

Mae sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da, ymdeimlad cryf o waith tîm, a pharodrwydd i fod yn rhan o'r gwaith o ddarparu hyfforddiant yn hanfodol. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau trefnu a chydlynu rhagorol, a bydd yn gallu llunio dogfennaeth statudol gan gynnwys Cynlluniau Datblygu Unigol ac adroddiadau proffesiynol. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol, fodd bynnag nid yw'n hanfodol.

Dylech gael caniatâd eichPennaeth os ydych chi'n gwneud cais am secondiad.

I ddechrau cyn gynted ag y gellir rhyddhau'r ymgeisydd llwyddiannus.

Am ragor o fanylion e-bostiwch

Lisa Rowlands

Lisa.Rowlands@wrexham.gov.uk