MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Wrexham,
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Not Supplied
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Disgrifiad
Mae gennym swydd wag gyffrous ar gyfer Rheolwr Gofal Plant Dechrau'n Deg a fydd yn arwain y Tîm Gofal Plant Dechrau'n Deg ac yn cyflwyno cynnig gofal plant Dechrau'n Deg i blant 2 oed yn Wrecsam. Swydd a ariennir gan grant yw hon, ac mae am gyfnod penodol tan 31 Mawrth 2028 gydag estyniad yn ddibynnol ar gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a deinamig sy'n angerddol ac yn brofiadol ac sydd am wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn datblygu ac yn cefnogi'r ddarpariaeth gofal plant mewn cydweithrediad ag ystod o dimau ar draws y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Chi fydd yr arweinydd rhwng yr awdurdod lleol, partneriaid Blynyddoedd Cynnar, ymarferwyr rheng flaen a lleoliadau gofal plant, mewn perthynas â darparu gofal plant Dechrau'n Deg i blant 2 oed. Byddwch yn gweithio'n agos gyda Chydlynydd y Gwasanaeth Dechrau'n Deg i helpu i lunio a llywio cyfeiriad strategol y ddarpariaeth Gofal Plant Dechrau'n Deg.
Mae'r swydd yn gofyn i chi arwain a rheoli tîm o Athrawon Ymgynghorol, Swyddogion Gofal Plant, Swyddog Derbyn a Chynorthwywyr Cymorth Busnes, gan hyrwyddo diwylliant cadarnhaol a chynhwysol. Byddwch yn cyfrannu at ddatblygu a gweithredu strategaethau i sicrhau darpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg gynhwysol o ansawdd uchel ac yn rhannu amcanion o ran polisi ac ymarfer sy'n arwain at ganlyniadau gwell i blant, gan gynrychioli Gofal Plant Dechrau'n Deg a'i rôl allweddol yn y datblygiadau hyn.
Os hoffech drafod y swydd mewn mwy o fanylder, cysylltwch â Deborah Hewson, Cydlynydd y Gwasanaeth Dechrau'n Deg, yn Deborah.hewson@wrexham.gov.uk neu 01978 298300.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.