MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Grade 8 - £36,363 - £40,777
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 17 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cydlynydd Prosiectau Cyfalaf a Chymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu
Cyngor Sir Benfro
Cyflog: Grade 8 - £36,363 - £40,777
Cydlynydd Prosiectau Cyfalaf Addysg a Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy£36,363-£40,777 y flwyddyn
Mae hon yn swydd amser llawn, benagored, 37 awr yr wythnos, yn amodol ar ymrwymiad parhaus y cyngor i raglen datblygu cyfalaf ysgolion Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (rhaglen dreigl naw mlynedd).
Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol yn y gwaith datblygu a chyflawni sy'n mynd rhagddo ar gyfer rhaglen gyfalaf ysgolion y cyngor. Chi fydd y pwynt cyswllt rhwng y Gyfarwyddiaeth Addysg (y cleient) a thimau eraill, yn enwedig Adeiladu a Gwasanaethau Technegol eraill. Chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf â Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhaglen a phrosiectau cyfalaf eraill sy'n ymwneud ag addysg, a byddwch chi'n goruchwylio prosiectau o'r fath ar ran y Cyfarwyddwr Addysg. Bydd y rhain yn cynnwys sicrhau bod briffiau prosiectau a phrosiectau a gwblhawyd yn cydymffurfio â phob deddfwriaeth / gofynion addysgol a holl amodau grantiau cyllid.
Byddwch yn rhan o'r broses i gaffael cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru, drwy weithio gyda thîm amlddisgyblaethol i ddrafftio achosion busnes, a byddwch hefyd yn chwarae rhan bwysig o ran cyflawni'r prosiect ei hun.
Mae profiad o reoli prosiectau yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, yn ogystal â phrofiad amlwg o gymhwyso'r gwaith o reoli asedau yn ymarferol o fewn y sector addysg. Mae hyn yn cynnwys dealltwriaeth drylwyr o brosesau / polisïau ac egwyddorion rheoli safleoedd ysgolion.
Byddwch yn meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog a bydd gofyn i chi gynnal cydberthnasau proffesiynol ag ystod eang o bobl, gan gynnwys aelodau etholedig, prif swyddogion, penaethiaid, amrywiaeth o weithwyr proffesiynol ym maes addysg a thechnoleg, a'r cyhoedd.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.