MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Teachers pay scale & SEN1 - £2728p.a.
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 10 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Teachers pay scale & SEN1 - £2728p.a.
Temporary Teacher KS2 (Complex Learning Needs)Disgrifiad Swydd
Athro Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 2 (Anghenion Dysgu Cymhleth) wedi'i leoli yn Ysgol Gynradd Gymuned Cwm-bach (Hyd at ddiwedd blwyddyn ysgol 2026)
Prif Raddfa Gyflog ynghyd â Lwfans AAA [£2001]
Dyddiad Dechrau: cyn gynted â phosibl
Mae Gwasanaethau Cynhwysiant a Mynediad Rhondda Cynon Taf yn dymuno penodi athro â chymwysterau a phrofiad priodol ar gyfer y Dosbarth Cymorth Dysgu ar gyfer disgyblion ag Anawsterau Dysgu Cymhleth cyn gynted â phosibl.
Mae hyn yn gyfle cyffrous i weithio gyda disgyblion ag anawsterau dysgu cymhleth yng nghyd-destun ysgol brif ffrwd. Bydd y dosbarth yn rhoi cymorth i oddeutu 10 disgybl o Flwyddyn 3 i Flwyddyn 6 a bydd yn cael ei staffio gan athro ac un Cynorthwyydd Cynnal Dysgu.
Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio gyda disgyblion ag anawsterau dysgu cymhleth a bydd e/hi wedi ymgymryd â datblygiad proffesiynol arbenigol. Bydd disgwyl i ymgeisydd llwyddiannus heb hyfforddiant arbenigol gwblhau hyfforddiant arbenigol priodol.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Helen Jenkins yn y Gwasanaeth Cynnal Dysgu, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ neu ffoniwch 01443 744333.
Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y rôl oddi ar wefan Recriwtio'r Cyngor.
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R HOLL STAFF A BENODIR GAN Y CYNGOR.
YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.