MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Prif Gogydd - Mewnol yn Unig

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

PRIF GOGYDD -MINERA
Colofn Dâl G04 Pwyntiau 5 - 6

Mewnol yn Unig

£25,583 - £25,989 yn ôl cyfrannedd
£13.26 - £13.47 yr awr

YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG

20 awr yr wythnos (tymor sefydlog)

Mae angen cogydd cymwys i reoli'r gwaith arlwyo yn yr ysgol gynradd hon. Ceir y posibilrwydd o ddatblygu'r gwasanaeth a bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gymryd rhan weithredol yn hyn o beth.
Bydd prif ddyletswyddau'r swydd uchod yn cynnwys:-

1. Rheoli'r gwasanaeth o fewn y cyllidebau a ddyrennir i dalu am gostau bwyd a llafur.
2. Dyletswyddau coginio medrus a dealltwriaeth o arferion coginio iachus.
3. Goruchwylio gweithwyr eraill, gan gynnwys rhannu dyletswyddau, gosod rota gwaith a hyfforddiant.
4. Goruchwylio'r gwasanaeth bwyd, rheoli dognau a chyflwyno bwyd.
5. Dyletswyddau clercol cysylltiedig.
6. Deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch.
7. Hyrwyddo'r gwasanaeth bwyd i gwsmeriaid.
8. Gweithredu system gyfrifiadurol gweinyddu prydau ysgol

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Y DYDDIAD CAU : 19/10/2025