MANYLION
  • Lleoliad: Schools,
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Graddfa gyflog yr athro
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro\/athrawes Cefnogi Addysg Trochi

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa gyflog yr athro

Lleoliad gwaith: Canolfan Iaith Conwy, Dolgarrog/Ysgolion

Rydym yn awyddus i benodi athro/athrawes brwdfrydig i weithio o fewn y gyfundrefn trochi iaith Gymraeg yng Nghonwy. Mae'r gwasanaeth Cymraeg sydd yn eistedd o fewn y Gwasanaeth Gwella Addysg, wedi ymrwymo i ddarparu addysg a chefnogaeth o ansawdd uchel i ddisgyblion sydd wedi cyrraedd ysgolion Cymraeg o gefndir di Gymraeg ac sydd angen eu trochi yn yr iaith o fewn y Ganolfan.

Rydym angen unigolyn uchel ei gymhelliant sydd efo profiad o drochi disgyblion newydd i'r iaith, sydd gyda profiad penodol o arwain agweddau o lythrennedd o fewn eu hysgol ac sydd yn hollol gyffyrddus yn cynllunio ynghlwm â'r Cwricwlwm i Gymru, i gallu dangos ymrwymiad cryf i sicrhau cefnogaeth ieithyddol gadarn fel bod ein trochwyr yn dod yn siaradwyr Cymraeg rhugl yn eu hysgolion a'u cymdeithasau lleol ac ehangach. Prif rôl yr ymgeisydd fydd cefnogi y dysgwyr yn y tymor cyn cyrraedd y ganolfan a'r tymor dilynol, gan gefnogi yr athro ysgol gartref allu cefnogi y disgybl o fewn ei ddosbarth naturiol drwy gefnogi y cynllunio a'r ddarpariaeth.

Mae cydweithio yn rhan hanfodol o'r swydd hon a disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu perthnasau gweithio mewnol gyda disgyblion a staff, yn ogystal â phartneriaethau allanol gydag ysgolion, ac ystod eang o weithwyr proffesiynol sydd o fewn rhwydweithiau addysg drochi.

Rydym angen ymgeisydd sydd hefyd yn gallu cefnogi y dysgu o fewn y ganolfan ar adegau, modelu addysg drochi o fewn ein hysgolion a gallu hyrwyddo a chefnogi yr ethos a'r diwylliant Gymreig yn ein hysgolion.

Oherwydd natur y gwaith, mae'r swydd yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: John Paul Jones, Uwch Swyddog Gwasanaeth Gwella Addysg 01492 574604 john.paul.jones@conwy.go.uk

Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.

Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.

Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.

Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).

Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.

This form is also available in English.