MANYLION
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro\/Athrawes Rhan Amser Dros Dro (Cyfnod Mamolaeth) - Ysgol Bod Alaw

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon

Ysgol Bod Alaw
Ffordd Abergele, Bae Colwyn
Ffôn: 01492 530420
Nifer y disgyblion: 333

Mae'r ysgol yn darparu addysg ar gyfer disgyblion o 3 hyd 11 oed.

Yn eisiau erbyn mis Tachwedd 2025

Athro/Athrawes Rhan Amser Dros Dro
(Cyfnod Mamolaeth)

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
Oriau: 4 diwrnod yr wythnos (0.8)

Mae Llywodraethwyr Ysgol Bod Alaw yn dymuno penodi Athro/Athrawes llawn cymhelliant a brwdfrydig gyda phrofiad perthnasol o addysgu yng Nghyfnod Allweddol 2.

Mae'r gallu i addysgu a chyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd.

Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda y Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.

I wneud cais am y swydd hon, ewch i www.conwy.gov.uk/swyddi i lenwi cais ar lein.

Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Pennaeth os gwelwch yn dda.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, rhaid i'r ymgeiswyr dybio nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y rhestr fer ac felly ni fyddent yn cael eu hysbysu'n ysgrifenedig. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English