MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Graddfa Gyflog Athrawon + 1 AAA
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 09 Tachwedd, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa Gyflog Athrawon + 1 AAA
Athro/Athrawes (Ysgol Penmaes)Swydd-ddisgrifiad
Rydym wedi estyn y dyddiad cau tan 09/11/2025
Lleoliad: Y Groes
Graddfa Gyflog Athrawon + 1 AAA
Athro - yn dechrau cyn gynted â phosibl (cyfnod penodol tan Awst 2025) - Darpariaeth lloeren Y Groes
Mae Ysgol Penmaes yn ysgol ddydd arbennig sy'n darparu addysg i 115 o ddisgyblion rhwng 3 a 19 oed. Mae'r ysgol wedi'i lleoli yn Aberhonddu ac mae'n cael ei chynnal gan awdurdod lleol Powys. Mae'r ysgol yn darparu ar gyfer disgyblion ag ystod eang o anawsterau dysgu. Mae'r rhain yn
cynnwys anawsterau dysgu difrifol (ADD), anhwylder ar y sbectrwm awtistig (ASA) ac anawsterau dysgu dwys a lluosog (ADDLl). Mae gan bob disgybl ddatganiad o anghenion addysgol arbennig neu Gynllun Datblygu Unigol. Yn ogystal â'r ddarpariaeth yn ein prif ysgol fe wnaethom agor darpariaeth loeren yn Y Groes, Llandrindod, ym mis Medi 2021. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi'i leoli yn y ddarpariaeth loeren yn Y Groes, Llandrindod, ond byddai disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus fynychu
digwyddiadau ysgol gyfan ym mhrif safle Penmaes a phryd bynnag arall y bydd y Pennaeth yn barnu bod hynny'n briodol.
Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddarparu addysg unigol a chynhwysol iawn i'w holl ddisgyblion, gyda phwyslais ar ddiwallu eu hanghenion unigol a datblygu eu cryfderau a'u diddordebau o fewn amgylchedd cefnogol.