MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Lampeter,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: 25,185 *
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 02 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Calon Aeron, Ysgol Dyffryn Aeron
Cyngor Sir Ceredigion
Cyflog: 25,185 *
Ynglŷn â'r rôlYn eisiau 3ydd o Dachwedd 2025.
Cyfle euraidd i weithio mewn ysgol ardal newydd sydd â chyfleusterau modern o'r radd flaenaf, gyda Chanolfan ADY, Canolfan Iaith ac adnoddau chwaraeon gwych yn rhan o'r campws, mewn ardal odidog yng ngorllewin Cymru.
Mae Corff Llywodraethwyr Ysgol Dyffryn Aeron yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Addysgu y Ganolfan ADY - (Ymddygiad/Arweiniad/Cefnogaeth - Lefel 2) sy'n ymroddedig ac ysbrydoledig a fydd yn darparu cefnogaeth a chymorth i Athro/Athrawes Arbenigol Calon Aeron, y Ganolfan ADY. Bydd y Cynorthwyydd Addysgu yn ran annatod o lunio dyfodol Calon Aeron, Canolfan ADY Ysgol Dyffryn Aeron a llywio ei llwyddiant.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
Gweithio o dan arweiniad uwch aelodau o'r staff/staff addysgu ac o fewn system gytunedig o oruchwyliaeth; gweithredu rhaglenni gwaith cytunedig gydag unigolion / grwpiau, oddi mewn neu oddi allan i'r ystafell ddosbarth. Gallai hyn olygu'r rhai sy'n galw am wybodaeth fanwl ac arbenigol mewn rhai meysydd, a bydd yn golygu cynorthwyo'r athro neu'r athrawes gyda'r cylch cynllunio cyflawn, yn ogystal â rheolaeth staff a rheoli/paratoi adnoddau. O bryd i'w gilydd hefyd, gall staff oruchwylio dosbarthiadau cyfan yn ystod absenoldeb byr-dymor athrawon. Bydd y prif bwyslais ar gynnal disgyblaeth dda a chadw'r disgyblion wrth eu gwaith. Bydd angen i Oruchwylwyr Llanw ymateb i gwestiynau a rhoi cymorth cyffredinol i'r disgyblion wrth iddynt ymgymryd â gweithgareddau penodol.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Pennaeth, Ms Nia Lloyd Thomas neu Mr. Pete Ebbsworth, (Athro Arbenigol), ar 01545 908908 neu Thomasn60@hwbcymru.net/ Ebbsworthp@hwbcymru.net
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant