MANYLION
  • Lleoliad: Schools,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: G01 Pwynt 2 - £14.18 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Goruchwyliwr Arholiadau - Ysgol Emrys ap Iwan

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: G01 Pwynt 2 - £14.18 yr awr

YSGOL EMRYS AP IWAN

Goruchwyliwr Arholiadau

Ystod Cyflog : G01 Pwynt 2 - £14.18 yr awr

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau : 01/10/2025

Dyddiad cychwyn yn y swydd: Mor fuan â phosib

Gallu cyfathrebu yn Gymraeg: Dymunol


Mae'r ysgol yn bwriadu ehangu ei thîm o oruchwylwyr arholiadau yn barod ar gyfer y gyfres arholiadau sy'n dechrau ym mis Tachwedd. Wedi hynny bydd gwaith ar gael ar wahanol adegau drwy gydol y flwyddyn academaidd trwy drefniant, ac felly mae hyblygrwydd sylweddol ar gael.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd â chyfnod o hyfforddiant ar gyfer y rôl, ac o ganlyniad, nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol.

Mae'n gyfnod cyffrous i ymuno ag Ysgol Emrys ap Iwan.

Yn gyfnewid rydym yn cynnig:
  • Ymrwymiad cryf i ddatblygiad proffesiynol;
  • Ysgol â dyheadau uchel a chyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth;">Tîm ymroddedig a chefnogol o staff proffesiynol a llywodraethwyr ;">Cysylltiadau cryf ag ysgolion lleol eraill ar gyfer gweithio mewn partneriaeth a chefnogaeth;">Ysbryd cymunedol cryf;
  • Lle bywiog a diddorol i weithio ynddo.
I wneud cais, ewch i wefan yr Ysgol: https://www.emrysapiwan.conwy.sch.uk/Vacancies/

Cyflwynwch ffurflen gais wedi'i chwblhau i payroll@emrysapiwan.conwy.sch.uk erbyn 13:00, dydd 1af o Hydref 2025

Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus.

This form is also available in English