MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Wrexham,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 03 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Disgrifiad
Ysgol Alexandra,
Bodhyfryd,
Wresam
LL127AZ
01978 315120
Pennaeth: Mrs Lisa Roberts
Glanhäwr
15 awr yr wythnos (dydd Llun i ddydd Gwener 3.00pm - 6.00pm), yn ystod y tymor yn ogystal â diwrnodau hyfforddi
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Alexandra yn dymuno penodi glanhawr parhaol.
Prif Gyfrifoldebau
Mae'r amrywiaeth o waith a wneir gan y staff glanhau yn cynnwys glanhau'r holl ystafelloedd, toiledau, coridorau, grisiau, swyddfeydd ac ardaloedd eraill o'r fath sy'n cael eu defnyddio yn ôl cyfarwyddyd y Goruchwyliwr Ardal. Bydd gofyn i chi wneud y canlynol:
1. Cyflawni'r holl waith i'r safon ofynnol, mor aml ag y nodir ac yn ôl cyfarwyddyd Goruchwylydd y Safle/Ardal.
2.Rhoi gwybod i Oruchwylydd y Safle/Ardal am unrhyw beth sy'n debygol o effeithio ar ei waith neu unrhyw beth y mae'n ystyried y dylai ef/hi fod yn ymwybodol ohono.
3.Gweithio ar y cyd â glanhawyr eraill ar y safle
4.Cydymffurfio ag arferion iechyd a diogelwch y Cyngor, gan gynnwys COSHH
5.Cadw loceri storio, cypyrddau a pheiriannau mewn cyflwr glân a thaclus.
6.Defnyddio offer a deunyddiau glanhau yn y modd rhagnodedig, gan dderbyn cyfrifoldeb am yr offer a ddefnyddir a sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio a'i storio'n ddiogel.
7.Cwblhau unrhyw waith papur gofynnol gan gynnwys taflenni amser.
8.Cyflawni unrhyw gyfarwyddiadau gwaith rhesymol eraill
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Lisa Evans, Rheolwr Busnes yr Ysgol ar 01978 315120.
Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.
Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod. mailbox@alexandra-pri.wrexham.sch.uk
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
DYDDIAD CAU: Dydd Gwener 3 Hydref 2025, 9.00am