MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthw-ydd Addysgu Lefel 2a Chymhorthydd Goruchwylio Canol dydd

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Sant Dunawd
Ffordd Sandown, Bangor Is-coed, Wrecsam, LL13 0JA
Pennaeth Dros Dro: Mr. Joshua Jones
CYNORTHWY-YDD ADDYSGU LEFEL 2 a CHYMHORTHYDD GORUCHWYLIO CANOL DYDD 26.25 awr yr wythnos - Gradd 04 - £13.26 - £13.47 Y Awr
2.5 awr yr wythnos - Gradd 02 £12.65 Y Awr
YN YSTOD TYMOR YR YSGOL YN UNIG
DIM GWYLIAU YN YSTOD Y TYMOR
SWYDD DROS DRO TAN 31 MAWRTH
Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel 2 brwdfrydig a rhagweithiol i ymuno â'n tîm Blynyddoedd Cynnar ymroddedig.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi'i leoli yn y Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 1, gan weithio o dan gyfarwyddyd uniongyrchol staff addysgu ac uwch, fel arfer yn yr ystafell ddosbarth. Mae'r swydd hefyd yn cynnwys 2.5 awr yr wythnos fel Cynorthwyydd Goruchwylio Canol Dydd, gan helpu i sicrhau profiad amser cinio cadarnhaol i'n plant.
Byddai profiad o weithio gyda disgyblion iau, yn enwedig y rhai ag anghenion ychwanegol, yn ddymunol. Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu gweithio'n annibynnol ac yn gydweithredol fel rhan o dîm, sy'n dangos sgiliau cyfathrebu rhagorol, ac yn dod ag ymagwedd ofalgar a meithringar at gefnogi disgyblion ag amrywiaeth o anghenion.
Dyddiad dechrau cyn gynted â phosibl. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Joshua Jones ar 01978 780757 neu mailbox@santdunawd-pri.wrexham.sch.uk.
DYCHWELWCH FFURFLENNI CAIS WEDI'U LLENWI YN UNIONGYRCHOL AT BENNAETH YR YSGOL.
Mae angen gwiriad GDG Manwl a chofrestriad CGA ar gyfer y swydd hon.
‍‍Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas, ni waeth beth fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg a'r Saesneg. Nifydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.