MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

2 X Cynorthwy -ydd Addysgu Lefel 1

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Penygelli
72 Ffordd Glyndwr, Coedpoeth, Wrecsam LL11 3HA
Pennaeth: Mr. Dion Griffiths
2 X CYNORTHWY-YDD ADDYSGU LEFEL 1
26.25 awr yr wythnos - Gradd 03 - £12.85 Y Awr
Yn ystod y tymor yn unig heb wyliau
I ddechrau cyn gynted â phosibl (swydd dros dro - i ddechrau, tan fis Mawrth 2026)
Mae llywodraethwyr Ysgol Penygelli am benodi dau Gynorthwy-ydd Addysgu Lefel 1 brwdfrydig â phrofiad addas i ymuno â'n tîm ymroddedig ac arloesol yng nghymuned ein hysgol hynod hapus, ofalgar a chynhwysol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
• Hyrwyddo ethos cynhwysol yr ysgol yn weithredol ac yn dathlu natur amrywiol ein hysgol
• Meddu ar brofiad blaenorol o weithio gyda disgyblion iau, disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol a dysgwyr sy'n agored i niwed (dymunol)
• Gweithio dan gyfarwyddyd yr athrawon dosbarth a'r Cydlynydd ADY i gefnogi a darparu ymyriadau addas i alluogi pob disgybl ar draws yr ysgol i wneud cynnydd yn eu llesiant a'u dysgu
• Meithrin perthnasoedd cefnogol gyda disgyblion, rhieni a staff
• Cymryd rhan mewn unrhyw ddatblygiad a hyfforddiant proffesiynol parhaus/ychwanegol perthnasol i gefnogi anghenion parhaus y rôl, yn ôl yr angen
• Gallu cyfathrebu'n hyderus.
• Gallu gweithio'n adeiladol fel rhan o dîm effeithiol a bod â'r gallu i ddefnyddio menter wrth weithio'n annibynnol.

Mae angen gwiriad GDG Manwl a chofrestriad CGA ar gyfer y swydd hon.

Mae croeso mawr i ymgeiswyr ymweld â'r ysgol. Ffoniwch 01978 722 160 i wneud apwyntiad.

I wneud cais: cwblhewch y ffurflen gais PDF atodedig isod yn electronig. Os oes angen i chi lenwi'r ffurflen â llaw, argraffwch hi, llenwch hi a'i dychwelyd yn uniongyrchol i'r ysgol os gwelwch yn dda. Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi'u llenwi yn uniongyrchol i'r Pennaeth drwy'r cyfeiriad e-bost isod:
Mailbox@penygelli-jun.wrexham.sch.uk
‍‍Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas, ni waeth beth fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
DYDDIAD CAU: 12:00pm Dydd Gwener 26 Medi
CYFWELIADAU: Wythnos yn dechrau 29 Medi