MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Gweinyddol - Lefel 1

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Bro Alun

Rhodfa Delamere

Gwersyllt

Wrecsam

LL11 4NG

01978 269580

mailbox@broalun-pri.wrexham.sch.uk

Pennaeth: Mrs Helen Oldfield

Nifer ar y gofrestr: 260

Swyddog Gweinyddol Rhan amser - Lefel 1

G03: £24,796 - £25,185 pro rata

Dyddiad Cychwyn: Dydd Iau, 6/11/25

8 awr yr wythnos (Bore Dydd Iau a Bore Dydd Gwener)

Rydym yn edrych am aelod o staff i weithio yn nerbynfa brysur ein hysgol; person a fyddai'n barod i weithio'n hyblyg ar ystod o dasgau.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn berson trefnus fydd yn medru gwneud cyfraniad gwerthfawr i'n hysgol. Os oes gennych sgiliau gweinyddol, cyfrifiadurol a chyfathrebu da a bod gennych ddiddordeb mewn gweithio mewn ysgol, dyma'r swydd i chi! Cynigir hyfforddiant wedi ei deilwra i ofynion yr ymgeisydd llwyddiannus er mwyn medru cyflawni'r swydd.

Mae Ysgol Bro Alun yn ysgol gyfrwng Gymraeg newydd ym mhentref Gwersyllt. Gallwn gynnig awyrgylch ac ethos hyfryd ymysg y staff a'r plant.

Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n medru'r Gymraeg.

Cysyllter â'r Pennaeth am fwy o fanylion neu os am ymweld â'r ysgol

DYCHWELWCH Y FFURFLEN GAIS WEDI'I CHWBLHAU YN UNIONGYRCHOL I'R PENNAETH YN YR YSGOL

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran

Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)

DYDDIAD CAU: Dydd Mawrth, 30/9/25

CYFWELIADAU: Dyddiad i'w gadarnhau