MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro / Athrawes Saesneg - Cyfnod Mamolaeth - Ysgol Greenhill
Cyngor Sir Benfro
Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944
Athro / Athrawes Saesneg - Cyfnod Mamolaeth - Ysgol GreenhillCyfnod mamolaeth - rhan-amser, 26 awr / 0.8 cyfwerth ag amser llawn
Mae Ysgol Greenhill, sy'n ysgol gyfun ar gyfer disgyblion 11 i 19 oed, yn gwasanaethu tref gaerog hanesyddol Dinbych-y-pysgod a'r cylch. Wedi'i lleoli o fewn ardal brydferth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae'r ysgol yn cynnig amgylchedd gofalgar, cynhwysol a chroesawgar lle mae'r disgyblion a'r staff yn falch o'u gwerthoedd a'u hethos cryf.
Mae Ysgol Greenhill yn chwilio am athro/athrawes ysbrydoledig, brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'n Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Rhaid i chi fod yn ymarferydd ymroddedig sy'n gallu cyflwyno Saesneg ar draws Cyfnodau Allweddol 3, 4 a 5, gan ysgogi disgyblion i gyflawni eu potensial. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn ymarferydd ystafell ddosbarth dymunol a fydd yn creu hyder yn ei ddysgwyr ac awydd i lwyddo.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan athrawon sydd â phob lefel o brofiad. Bydd gan ymgeiswyr wybodaeth eithriadol am y pwnc ac angerdd am addysgu. Byddant hefyd yn ymrwymedig i gyflawni rhagoriaeth ac yn barod i gefnogi gweledigaeth yr ysgol. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno âr Maes Dysgu a Phrofiad, er mwyn cyfrannu at ddatblygiad parhaus y 'Cwricwlwm i Gymru' 2022 newydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ân hadran lwyddiannus, llawn adnoddau, sydd â thîm profiadol sy'n cyflawni ar lefel uchel, a byddant yn chwarae rhan weithredol wrth godi proffil Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu ar draws ein hysgol.
Yn y lle cyntaf, bydd y penodiad yn gyfnod mamolaeth cyfnod penodol tan fis Awst 2026, 0.8 cyfwerth ag amser llawn / 26 awr rhan-amser.
I gael gwybod mwy am y rôl, neu i drefnu ymweliad âr Maes Dysgu drwy Richard Davies yn Ysgol Greenhill, cyfeiriwch unrhyw ymholiadau at 01834 840100, Estyniad 166 neu anfonwch neges e-bost at DaviesR1557@hwbcymru.net .
Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch âr Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.