MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwy-ydd Goruchwylio Clwb Brecwast - Ysgol Gynradd Gymunedol Wat's Dyke

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd Gymunedol Wat's Dyke, Wrecsam
G02 SCP2 - £2,753 y flwyddyn
Parhaol
5 awr yr wythnos, yn ystod y tymor ysgol yn unig

Rydym ni'n chwilio am gymhorthydd arlwyo parhaol ar gyfer disgyblion sy'n mynd i'r clwb brecwast yn yr ysgol uchod.

Mae'r prif ddyletswyddau'n cynnwys:-
1 - Gosod y neuadd a'r byrddau i blant fwyta brecwast yno a threfnu adnoddau i'r plant chwarae gyda nhw.
2 - Dyletswyddau cegin cyffredinol, e.e. glanhau byrddau a thacluso llestri.
3 - Goruchwylio plant tra maent yn bwyta'u brecwast a'u cynorthwyo wrth wneud gweithgareddau fel chwarae gemau a gwaith celf.
4 - Tacluso adnoddau a sicrhau bod y cwpwrdd cadw'n daclus
5 - Unrhyw ddyletswyddau sy'n gymesur â natur a graddfa'r swydd, yn ôl cyfarwyddyd y Prif Gogydd.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.