MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Disgrifiad

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru St Giles

Madeira Hill

Wrecsam

LL13 7HD

Ffôn: 01978 318880

Pennaeth: Mr Fraser Darlington

Cadeirydd y Llywodraethwyr: Jennie Rodenhurst

Cyfanswm Nifer ar y Gofrestr: 420

Y PENNAETH

I gychwyn ar ddechrau Tymor yr Haf - 13 Ebrill 2026, neu cyn hynny

Arweinyddiaeth L18 - £77,000 - L24 - £89,186

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru St Giles yn gwahodd Penaethiaid presennol neu ymarferwyr profiadol sydd â chymhwyster CPCP i wneud cais am rôl y Pennaeth.

Mae St Giles yn ysgol eglwysig fawr, ffyniannus yng nghanol dinas Wrecsam. Rydym yn darparu lle diogel, cefnogol a hapus i blant ddysgu a chyflawni eu potensial llawn. Rydym yn ymfalchïo yn yr addysg eang, gytbwys a pherthnasol rydyn ni'n ei darparu, lle gall disgyblion ddatblygu hunanddelwedd gadarnhaol ac ennill y sgiliau y bydd eu hangen arnynt, yn ystod eu bywydau. Yn St Giles, mae gennym ddysgwyr hapus, hyderus a pharchus, staff ymroddedig, rhieni cefnogol a chorff llywodraethu gweithredol. Rydym yn ysgol amrywiol a chynhwysol ac rydym yn gwasanaethu ein cymuned yn dda. Mae gan yr ysgol gysylltiadau agos ag Eglwys Plwyf hanesyddol Wrecsam ac rydym yn gwerthfawrogi'r cyfraniad pwysig y mae'n ei wneud i'r ysgol, gan gyfoethogi ein gwerthoedd a'n credoau Cristnogol.

Mae St Giles yn cynnig Addysg Gynnar a darpariaeth gofleidiol lawn, gan gynnwys brecwast a gofal ar ôl ysgol.

Mae'r Llywodraethwyr yn ceisio penodi Pennaeth uchelgeisiol, llawn cymhelliant, sy'n meddu ar sgiliau arwain rhagorol ac ymrwymiadi gyflawni safonau uchel yn yr ysgol unigryw, fywiog a chroesawgar hon.

Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus:

Ddangos arweinyddiaeth gref a deinamig

Cynnal a gwella ethos Cristnogol yr ysgol a'i hymdeimlad o gymuned

Yn meddu ar hanes profedig o arweinyddiaeth effeithiol a gwella ysgolion; adeiladu ar y cryfderau, a gosod y cyfeiriad strategol i ddatblygu'r ysgol ymhellach

Yn meddu ar wybodaeth dda o gyllidebau ysgolion a chynnal arfer cyllidol cryf

Gwerthfawrogi pob plentyn ac ymdrechu i sicrhau bod gan ddisgyblion a staff ddyheadau uchel am gyflawniad

Hyrwyddo perthnasoedd cryf, ymddiriedus a pharchus, lle mae staff yn teimloeu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u hysbrydoli i dyfu'n broffesiynol

Bod yn ymrwymedig i ddull o annog, sy'n cefnogi ein holl ddisgyblion a'uteuluoedd, yn enwedig y rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol neu sydd â Saesneg fel iaith ychwanegol

Dangos ymrwymiad cryf i hybu lles a llais y disgybl

Creu amgylchedd sy'n sicrhau ymddygiad, parch, goddefgarwch ac amrywiaeth cadarnhaol i bob disgybl.

Croesewir ymweliadau â'r ysgol cyn gwneud cais. I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu apwyntiad ar gyfer ymweliad, cysylltwch â Phennaeth yr ysgol.

Bydd y Corff Llywodraethu yn ystyried arfer ei hawliau i benodi'r ymgeisydd llwyddiannus ar bwynt yn y raddfa gyflog sy'n briodol i'w sgiliau a'i arbenigedd, yn unol â'r DCAAY.

Mae'r swydd hon yn amodol ar gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

I wneud cais: lawrlwythwch a llenwch y ffurflen gais PDF sydd ar gael ar y dudalen we www.wrecsam.gov.uk/services/swyddi-gyrfaoedd neu dros e-bost hrservicecentre@wrexham.gov.uk

DYCHWELWCH FFURFLENNI CAIS WEDI'U LLENWI YN UNIONGYRCHOL AT GADEIRYDD Y LLYWODRAETHWYR mewn e-bost i

rodenhurstj@hwbcymru.net

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chymwysterauaddas, waeth beth fo'u hil, rhywedd, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Nodwch fod pob swydd ysgol yn destun gwiriad manwl gan y GDG

(Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)

DYDDIAD CAU: Dydd Gwener 10 Hydref 2025

Y BROSES GYFWELD YN CYCHWYN

CYFWELIADAU: o'r wythnos sy'n dechrau 20 Hydref 2025