MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 6 Pwynt 11 i Bwynt 14 £28,142 i £29,540 y flwyddyn pro rata £14.58 i £15.31 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Arholiadau a Data (Ysgol Llanfyllin)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 6 Pwynt 11 i Bwynt 14 £28,142 i £29,540 y flwyddyn pro rata £14.58 i £15.31 yr awr

Swyddog Arholiadau a Data (Ysgol Llanfyllin)
Swydd-ddisgrifiad
Mae Corff Llywodraethol Ysgol Llanfyllin yn chwilio am Swyddog Arholiadau proffesiynol, ymroddedig a brwdfrydig. Dylech fod yn drefnus iawn, yn frwdfrydig ac yn llawn cymhelliant.
Bydd y Swyddog Arholiadau yn gyfrifol am drefniadaeth a rhediad llyfn
arholiadau mewnol ac allanol a gweithredu fel prif gyswllt rhwng yr ysgol a'r cyrff arholi allanol. Gan weithredu ar ran yr Ysgol fel canolfan arholi, chi fydd y prif bwynt cyswllt mewn perthynas â gweinyddiaeth gyffredinol arholiadau ac asesiadau cyrff dyfarnu ar bob cam o'r cylch arholiadau.
Bydd deiliad y swydd yn sicrhau fod Ysgol Llanfyllin yn cydymffurfio a rheoliadau a gofynion y Corff Dyfarnu a diogelwch a chywirdeb arholiadau/asesiadau a bod yr arholiadau yn cael eu cynnal yn unol â'r rheoliadau. Bydd y rôl hon yn gweithio'n agos ag athrawon, penaethiaid adran, aelodau o'r Uwch Dim Rheoli ac yn rheoli'r tîm goruchwylio.
Mae gan y rôl hefyd beth cyfrifoldeb am reoli data a ffurflenni statudol ac unrhyw ddyletswyddau eraill sy'n gymesur âr rôl.
Gradd 6, 42 wythnos y flwyddyn, 37 awr yr wythnos.
Byddai sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Bydd angen gwiriad manylach y DBS ar gyfer y swydd hon.
Am ragor o wybodaeth am y rôl a/ neu ffurflen gais yna cysylltwch â Mrs Sarah Hunter, Rheolwr Busnes. office@llanfyllin.powys.sch.uk
01691 648391
Dyddiad cau ymgeisio - 22/09/2025