MANYLION
  • Lleoliad: Schools,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Grŵp 2 L9 - L15 £61,705 - £71,523 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth - Ysgol Morfa Rhianedd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Grŵp 2 L9 - L15 £61,705 - £71,523 y flwyddyn

YSGOL MORFA RHIANEDD
Ffordd Cwm, Llandudno LL30 1EG
Pennaeth: Mr Gethin M Jones
Ffôn: 01492 577150
Nifer ar y gofrestr: 134 + 29 meithrin

Yn eisiau erbyn Ionawr 2026 neu cyn gynted â phosib ar ôl hynny

PENNAETH

Cyflog: Grŵp 2 L9 - L15 £61,705 - £71,523 y flwyddyn

Mae'r Llywodraethwyr am benodi pennaeth rhagorol, arloesol ac ymroddedig sy'n rhoi'r plentyn yn gyntaf. Mae angen arweinydd gyda dychymyg a gweledigaeth i barhau i ddatblygu'r ysgol uchel ei pharch hon. Gwahoddir ceisiadau gan benaethiaid presennol neu ymgeiswyr gyda'r cymhwyster CPCP.

Byddai'r Llywodraethwyr yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â'r canlynol:
• gweledigaeth glir am ragoriaeth addysgol ac yn angerddol ynglŷn â gwella cyflawniadau disgyblion
• sgiliau cadarn o ran arwain, trefnu a chyfathrebu
• yn medru gweithio'n llwyddiannus mewn partneriaeth â'r plant, staff, llywodraethwyr, rhieni a'r gymuned
• disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus fod ag ymroddiad cadarn a brwdfrydig tuag at yr iaith Gymraeg a'i diwylliant, gan ystyried hanes, naws ac ethos yr ysgol.

Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma.

Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae'n ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.

Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd cysylltwch â'r ysgol ar (01492) 577150.

Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Rhagwelir cynnal cyfweliadau yn yr wythnos yn cychwyn 13eg Hydref 2025

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os na fyddwch yn cael gwybod o fewn 3 wythnos wedi'r dyddiad cau eich bod ar restr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i chi gymryd yn ganiataol na fyddwch yn cael cyfweliad. Ni fyddwch yn cael gwybod hynny ar bapur. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English.