MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Rheolwr TGCh a Seilwaith

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Adran Addysg ac Ymyrraeth Gynnar

Rheolwr TGCh a Seilwaith

Soulbury 17-20 (+3 SPA)

Secondiad Llawn Amser (6 mis i ddechrau)

I ddechrau cyn gynted â phosibl.

Mae Gwasanaeth Effeithiolrwydd ac Isadeiledd Ysgolion yr Adran Addysg ac Ymyrraeth Gynnar yn chwilio am uwch-reolwr i ymgymryd â rôl allweddol o fewn y tîm.

Bydd y Rheolwr TGCh a Seilwaith yn rheoli tîm amrywiol sy'n darparu ystod o wasanaethau i ysgolion. Wrth wneud hyn bydd yn:-

Cyfrannu'n gadarnhaol at gynllun cyffredinol yr ALl ar gyfer effeithiolrwydd ysgolion

bod yn gyfrifol am ddarparu rhwydweithiau TGCh a chefnogaeth Systemau Rheoli Gwybodaeth ar gyfer Ysgolion y Sir

darparu arweinyddiaeth strategol a rheoli rhaglenni ar gyfer y rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu
Rheoli derbyniadau ysgolion

Rheoli'r Gwasanaeth Arlwyo Ysgolion

Gweithio'n agos gydag adrannau eraill sy'n darparu cymorth i ysgolion

I gael sgwrs am y swydd cysylltwch â Dafydd Ifans (Pennaeth Effeithiolrwydd Addysg ac Isadeiledd) ar 01978 295404 neu dafydd.ifans@wrexham.gov.uk.

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd neu oedran.