MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £26,403 - £27,694 Pro Rata | Grade 4
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 (ADY) - Ysgol Gynradd Nant Celyn
Torfaen Local Authority
Cyflog: £26,403 - £27,694 Pro Rata | Grade 4
Dyddiad Dechrau: CYN GYNTED Â PHOSIBLSwydd dros dro, am 1 flwyddyn
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Nant Celyn yn dymuno cynnig contract Dros Dro i dau Gynorthwyydd Addysgu Lefel 2. Mae'r ddwy swydd hon yn ein Canolfan Adnoddau Dysgu.
Mae Nant Celyn yn ymfalchïo yn ei natur gynhwysol a bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus angerdd dros ddysgu a thros gefnogi pob plentyn trwy ddiwallu eu hanghenion er mwyn iddynt wireddu eu potensial.
Gallech chi fod yn berffaith i ni, os ydych chi:
- Yn ymarferydd gofalgar sy'n rhoi llesiant pob plentyn wrth wraidd eich ymarfer, go iawn;
- Yn ymarferydd creadigol sy'n llawn ysbrydoliaeth ac sydd wedi ymrwymo i fodloni'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu, a'u cynnal ; font-size:12pt">Yn gallu cefnogi'r dosbarth gan ddarparu cyfleoedd dysgu cynhwysol, creadigol a heriol, gan ddefnyddio technoleg mewn ffordd arloesol; font-size:12pt">Ag arbenigedd profedig ar gefnogi plant ag ADY
- Yn gallu dangos eich bod yn gallu cefnogi disgyblion ag ADY i wneud cynnydd da yn ôl eu gallu
- Yn aelod o staff hyderus a rhagweithiol; font-size:12pt">Yn gallu dangos ymrwymiad i'r ysgol, gan gynnwys presenoldeb a phrydlondeb.
- Â diddordeb mewn cyfrannu at fywyd cymuned yr ysgol y tu allan i'r ystafell ddosbarth.
Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd wag hon, cysylltwch â Keri Smith drwy e-bost: Keri.Smith@torfaen.gov.uk neu dros y ffôn ar 01633 624170.
Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd llwyddiannus, a fydd yn cynnwys gwiriad Manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Ar gyfer y swydd hon mae gofyn cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed a'i hyrwyddo. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Dyddiad Cau: Dydd Iau 25 Medi 2025
Tynnu'r rhestr fer: Dydd Gwener 26 Medi 2025
Cyfweliadau: Dydd Mawrth 30 Medi 2025