MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £31,537 - £34,434 Pro Rata | Grade 6
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch (Cynradd) - Ysgol Gymraeg Gwynllyw

Torfaen Local Authority

Cyflog: £31,537 - £34,434 Pro Rata | Grade 6

CALU (Cynradd)

Swydd Parhoal
Gradd 6 - £31,537 - £34.343 (pro-rata)
Amser tymor yn unig (39 wythnos)
Ionawr 2026


Dyma gyfle arbennig i ymuno ag ysgol sydd ar ddechrau cyfnod cyffrous yn ei hanes. Ym Medi 2022, agorwyd Ysgol Gymraeg Gwynllyw fel ysgol bob oed, wrth i'n hadran gynradd groesawu ei disgyblion cyntaf.

Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr.

Agorodd Ysgol Gyfun Gwynllyw fel ysgol gyfun Gymraeg gyntaf hen sir Gwent yn 1988 ac ers y cyfnod hynny, braf yw gweld addysg Gymraeg yn ffynnu yn yr ardal hon. Lleolir yr ysgol ar gyrion tref hanesyddol Pont-y-pwl, ac yn gyfleus iawn i'r trefi mawrion, Caerdydd (tua hanner awr), Casnewydd (tua chwarter awr), yn ganolog iawn i draffyrdd yr M4 a'r M5 a phriffordd Pennau'r Cymoedd sy'n arwain at Ferthyr, Y Fenni a Henffordd. Mae'r ysgol hefyd yn gweithio'n agos gydag ysgolion uwchradd Cymraeg eraill wrth ddatblygu ein cwricwlwm newydd a chynigir amryw o gyfleoedd datblygiad proffesiynol fel rhan o hyn.

Gwahoddir ceisiadau gan addysgwr sector cynradd neu uwchradd cyfrwng Cymraeg. Yn ogystal cynigir hyfforddiant gloywi iaith i addysgwr cynradd ac uwchradd y sector Saesneg os dymunant ymuno a theulu Ysgol Gymraeg Gwynllyw.

Rydym yn blaenoriaethu datblygiad proffesiynol ein staff fel prif ffocws. Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn cydweithio'n dda i ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr.

Rydym yn edrych i benodi: Ymarferydd dosbarth cymwysedig eithriadol gydag angerdd am ddatblygu dysgu plant, gyda'r gallu a'r arbenigedd i gyflenwi amser CPA a rhyddhau arweinwyr tîm pan fo angen gan gynnwys cyflenwi dros dro yn y tymor byr. Yn ogystal ag arwain ymyraethau i gefnogi ein plant ymhellach.

Rydym yn chwilio am CALU dienamig, gyda disgwyliadau uchel a dealltwriaeth o godi cyrhaeddiad ac yn unigolyn creadigol, cadarnhaol a fydd yn cydweithio fel aelod o dîm sy'n gosod esiampl dda o ran gwisg, prydlondeb a phresenoldeb ac yn modelu gwerthoedd ein hysgol yn effeithiol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn: Gweithio ochr yn ochr â'r Athrawon Dosbarth yn camau cynnydd 1 & 2 - wrth gynllunio a gweithredu gwersi. Cyflwyno cynnwys y wers yn unol â chyfarwyddiadau a chynllun yr athro dosbarth, gan deilwra i ddiwallu anghenion y plant, os oes angen. Bod yn rhan o asesu, cofnodi ac adrodd ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad y plant. Marcio gwaith yn unol â chyfarwyddyd yr athro dosbarth yn unol â pholisi marcio'r ysgol Gallwn gynnig cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus: Gweithio gyda phlant ag ymddygiad rhagorol, sy'n llawn cymhelliant ac yn awyddus i ddysgu Gweithio o fewn tîm cefnogol, cyfeillgar Datblygu eu datblygiad proffesiynol trwy ystod o gyfleoedd hyfforddi Gweithio mewn ysgol sy'n hybu lles staff Gweithio gyda theuluoedd a llywodraethwyr sy'n gwerthfawrogi ac yn cefnogi gwaith yr ysgol.

Mawr obeithiwn y byddwch yn gwneud cais i ymuno â ni wrth i ni ddatblygu a gwella gyda golwg clir ar y dyfodol. Gofynnir i chi gwblhau ffurflen gais erbyn dydd Gwener 3ydd o Hydref 2025.

Os ydych am drafod y swydd ymhellach, cysylltwch âr ysgol i siarad â Gareth Jones Dirprwy Bennaeth.

Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad DBS manylach. Mae'r ysgol yn cydymffurfio â Rheoliadau Gofal Plant (Anghymhwyso) 2009, drwy sicrhau nad yw staff yn cael eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Trefnir cyfweliadau wrth i geisiadau ddod i law. Anogir ymgeiswyr felly i gyflwyno eu ffurflenni cais cyn gynted â phosibl. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu'r hysbyseb hon yn ôl cyn y dyddiad cau ar gyfer penodi ymgeisydd addas.