MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Grade 5 | £28,142 - £31,022 PRO RATA
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gweithiwr Cymorth Allgymorth - Ysgol Crownbridge

Torfaen Local Authority

Cyflog: Grade 5 | £28,142 - £31,022 PRO RATA

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad llwyddiannus o weithio gyda phlant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth/ADY.

Cyfathrebwr da ac agwedd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Brwdfrydig a hyblyg gydag awydd i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc.

Y gallu i weithio fel rhan o dîm a defnyddio eich menter eich hun.

Am drafodaeth anffurfiol ynglyn â'r swydd wag hon, cysylltwch â Sarah Roberts, Arweinydd Tîm Allgymorth ar 01633 648054

Ar gyfer y swydd hon mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg

Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'n Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd llwyddiannus, a fydd yn cynnwys gwiriad Manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol.Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed a'i hyrwyddo. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.