MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £26,403 - £27,694 Pro Rata | Grade 4
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Ysgol Gorllewin Mynwy
Torfaen Local Authority
Cyflog: £26,403 - £27,694 Pro Rata | Grade 4
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'Hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.Mae Ysgol Gorllewin Mynwy yn ysgol lwyddiannus i ddisgyblion 11 - 16 oed. Rydym yn dymuno penodi Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 hynod gymhellol a medrus.
Bydd yr oriau gwaith dan gontract yn 30 awr yr wythnos. Mae'r gofynion allweddol ar gyfer pob swydd yn cynnwys:
- y gallu i weithio'n dda fel rhan o dîm, gan fabwysiadu dull hyblyg yn ôl yr angen
- sgiliau cyfathrebu rhagorol, gan gynnwys TG
- Lefel 2 Saesneg a Mathemateg
- dealltwriaeth ardderchog o sut i gefnogi addysgu a dysgu yn effeithiol
- dealltwriaeth dda o sut i gefnogi'r gwaith o ddatblygu sgiliau ymddygiad, emosiynol a chymdeithasol
- y gallu i gefnogi anghenion gofal personol dysgwyr mewn modd sensitif yn ôl yr angen
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'n Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.