MANYLION
  • Lleoliad: HAVERFORDWEST, Pembrokeshire, SA61 1SZ
  • Testun: Darlithydd
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £19.08 - £37.55
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 03 Gorffennaf, 2022 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Darlithydd mewn Cwnsela

Darlithydd mewn Cwnsela

Coleg Sir Benfro
Darlithydd mewn Cwnsela

Manylion Cyflog: Graddfa: ALS1-4 (£19.08- £22.52- heb gymhwyster addysgu)
MG1-UP1 (£24.30 - £34.93 yr awr - gyda chymhwyster addysgu)
Cyfle i symud ymlaen i raddfa bellach
UP2-UP3 (£36.22– £37.55 yr awr)

Oriau gwaith: 6 awr o ddysgu yr wythnos yn ystod cyfnod cyflwyno'r cwrs
(mae hyn yn dibynnu ar nifer y dysgwyr sy'n cofrestru/cyrsiau sy'n rhedeg)

Math o Gontract: Telir fesul Awr — Parhaol

Cymwysterau:
• Mae'n hanfodol meddu ar gymhwyster lefel 4 o leiaf mewn Cwnsela Therapiwtig
• Mae’n hanfodol meddu ar Gymhwyster Addysgu e.e. TAR neu Ddyfarniad mewn Addysg a Hyfforddiant
• Os heb gymhwyster addysgu, efallai y bydd angen cyflawni’r cymhwyster TAR (gyda chefnogaeth y Coleg) tra yn y swydd

Profiad:
• Rhaid i chi fod yn ymarferydd cyfredol gyda 2 flynedd o ymarfer cwnsela dan oruchwyliaeth
• Rhaid i chi feddu ar gymhwyster Goruchwylio neu fod â blwyddyn o brofiad o ddarparu goruchwyliaeth i grwpiau neu unigolion mewn lleoliad cwnsela
• Byddai profiad o gyflwyno cwrs CPCAB o fantais.

Manylion:
Rydym yn chwilio am Ddarlithydd Cwnsela llawn cymhelliant i ymuno â’n tîm ac arwain y cwrs Diploma Lefel 4 mewn Cwnsela Therapiwtig. Byddwch yn rhan o dîm cyflwyno dau berson a fydd yn cyflwyno cwrs hybrid o ddysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein. Nodwch y bydd taith breswyl yn digwydd yn ystod y cwrs lle bydd angen i ddarlithwyr fynychu. Efallai y bydd cyfle hefyd i gefnogi cyrsiau Cwnsela eraill a gynhelir gan y Coleg.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y rôl hon a diddordeb mewn ymuno â'r Coleg, cysylltwch â Bethany ar 01437 753139 am drafodaeth bellach.

Mae Coleg Sir Benfro yn croesawu’r canlynol yn arbennig: ymgeiswyr sydd â sgiliau cyfathrebu llafar Cymraeg da / ymgeiswyr ag anableddau / Milwyr Wrth Gefn y Lluoedd Arfog / Ymgeiswyr rhannu swydd. Mae'n ofynnol i holl weithwyr y Coleg ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion agored i niwed.

Dyddiad Cau: Hanner nos, Nos Sul 3 Gorffennaf 2022