MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Teacher's Pay Scale
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro (Cyfnod Mamolaeth) - Ysgol Gynradd Gymunedol Woodlands
Torfaen Local Authority
Cyflog: Teacher's Pay Scale
Cyfnod mamolaeth cyfnod penodol 29/09/2025 - 12/12/2025Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Mae angen athro da arnom i weithio fel athro cyflenwi yn ystod cyfnod mamolaeth yn ein dosbarth Blwyddyn 4 yn Nhymor yr Hydref. Mae croeso i athrawon newydd gymhwyso, wneud cais am y swydd.
Mae Woodlands yn ysgol lwyddiannus iawn sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Cafodd radd 'Ardderchog' gan Estyn yn 2014 ac eto yn 2019.
Gallwn gynnig:
- Ysgol ddeinamig gyda disgwyliadau uchel
- Amgylchedd dysgu sydd ag adnoddau da
- Tîm cyfeillgar, brwdfrydig a phroffesiynol a phlant anhygoel
- Cyfleoedd am ddatblygiad proffesiynol pwrpasol
- Fwynhau herio plant, eu cefnogi a'u hysgogi
- Ymdrechu i sicrhau bod y dysgu yn ddifyr ac yn berthnaso
- Bod yn llawn cymhellian
- Gallu gweithio fel rhan o dî
- Ymrwymo i godi safonau pob plentyn
- Meddu ar weledigaeth, egni a synnwyr digrifwch
Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Ar gyfer y swydd hon mae gofyn cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed a'i hyrwyddo. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Dyddiad cau: Dydd Iau, 18 Medi 2025
Llunio Rhestr fer: Dydd Gwener, 19 Medi 2025
Arsylwi ar Wers: Arsylwi ar wersi 22.09.25 tan y 25.09.25
Cyfweliadau: 6.09.25