MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: Hourly rate: £12.85 | Grade 1
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 16 Medi, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Clwb Brecwast - Ysgol Gynradd Gymunedol Penygarn

Torfaen Local Authority

Cyflog: Hourly rate: £12.85 | Grade 1

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus a brwdfrydig iawn sy'n llawn ysgogiad, i ymuno â'r Tîm Arlwyo Ysgolion! Eich rôl chi fydd helpu i baratoi a choginio prydau maethlon dyddiol i ddisgyblion yn yr ysgol. Bydd gofyn i chi wybod am baratoi bwyd yn ddiogel a rheoliadau diogelwch bwyd.

Bydd gofyn i chi:
  • Fod â phrofiad profedig o weithio mewn amgylchedd cegin.
  • Gallu helpu gyda choginio a gweini prydau blasus.
  • Cadw at weithdrefnau Hylendid ac Iechyd a Diogelwch a chydymffurfio â nhw.
  • Ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant sy'n angenrheidiol ar gyfer y swydd mewn unrhyw leoliad y mae'r Rheolwr Arlwyo yn teimlo ei fod yn addas.
  • Sicrhau ar bob adeg fod yr holl offer cegin yn cael eu defnyddio'n ddiogel ac yn gywir.
Bydd gofyn i chi gadw cofnodion llawn a chywir ym mhob llyfr/ar bob ffurflen yn unol âr gweithdrefnau gweinyddol a osodwyd gan yr Adran Arlwyo

Am drafodaeth anffurfiol am y swydd wag hon, cysylltwch â Catherine Davies ar 01633647404 neu Catherine.davies@torfaen.gov.uk .

Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol.

Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.

Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.