MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ial,
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £34,612 - £36,748
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £34,612 - £36,748
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Dirprwy Reolwr Cyffredinol Bwyty
Lleoliad: Iâl
Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser
Cyflog: £34,312 - £36,748
Mae gan Goleg Cambria gyfle cyffrous i ymuno â'r tîm yn ein hadran Lletygarwch ar ein safle Iâl. Rydym yn recriwtio Dirprwy Reolwr Cyffredinol (Bwytai a Digwyddiadau).
Fel Dirprwy Reolwr Cyffredinol, byddwch yn gyfrifol am gynorthwyo'r Rheolwr Cyffredinol gyda'r gwaith o redeg Bwyty Iâl a phob digwyddiad lletygarwch ar draws y coleg, ar y safle ac oddi arno. Rhan allweddol o'r rôl fydd arwain, datblygu ac ysbrydoli staff a myfyrwyr sy'n gweithio yn yr adran i ddarparu bwyd a gwasanaeth rhagorol ar bob lefel.
Byddwch hefyd yn cydweithio â'r tîm cwricwlwm i sicrhau trosglwyddiad llyfn i fyfyrwyr o'r amgylchedd dysgu i ymarfer masnachol, gan roi cyfleoedd iddynt ennill profiad ymarferol gwerthfawr mewn gwasanaeth byw a chyflwyno digwyddiadau.
Mae buddion gweithio yng Ngholeg Cambria yn cynnwys cynlluniau pensiwn ardderchog, cydbwysedd bywyd a gwaith da iawn, 28 diwrnod o wyliau, yn ogystal â gwyliau'r banc a hyd at 5 diwrnod yn ystod gwyliau'r Nadolig gyda bwyty Iâl ar gau yn ystod cyfnod y Nadolig. Bydd hyfforddiant ar gael a llawer o gyfleoedd i symud ymlaen.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Fwyty Iâl arialrestaurant.co.uk neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol @ialrestaurant.
Gofynion Hanfodol
• NVQ 3 mewn Goruchwylio Bwyty neu gymhwyster tebyg
• Gwybodaeth gadarn am wasanaethau bwyd a diod yn y sector
• Profiad amlwg o ddarparu gwasanaeth rhagweithiol rhagorol
• Profiad o weithio gyda phrentisiaid a'r rhai sy'n hyfforddi
• Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog, tact a doethineb.
• Safon dda mewn llythrennedd a rhifedd.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai