MANYLION
  • Lleoliad: Colwyn Bay,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Soulbury Educational Psychologist (Scale B 2-7 & 3 SPA)
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Medi, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Uwch Seicolegydd Addysg

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Soulbury Educational Psychologist (Scale B 2-7 & 3 SPA)

Lleoliad gwaith: Coed Pella

Rydym yn Wasanaeth Seicoleg Addysgol cefnogol, wedi'i hen sefydlu sy'n seiliedig mewn lleoliad hardd yng Ngogledd Cymru. Rydym yn gweithio fel rhan o Wasanaeth Cefnogi Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant Cymdeithasol ehangach sy'n dod â nifer o gydweithwyr a thimau arbenigol at ei gilydd i gefnogi pobl ifanc a'u teuluoedd ar draws Conwy.

Rydym yn edrych i benodi Uwch Sefydlogwr Addysg parhaol am 0.6 / 3 diwrnod o 1 Tachwedd 2025.

Mae'r gwasanaeth Seicoleg Addysgol yn arwain grŵp strategol amlddisgyblaethol Osgoi'r Ysgol ar Sail Emosiwn; Gwasanaeth Allgymorth Awtistiaeth; Gwasanaeth Cefnogi Dysgu Arbenigol ac yn cydlynu ein Tîm Anhwylder Iaith a Lleferydd Arbenigol ar y cyd â'r tîm iechyd. Mae gennym raglen ELSA wedi'i hen sefydlu hefyd a goruchwyliaeth ar gael ar draws ein hysgolion. Rydym yn gweithio'n agos fel tîm i sicrhau bod yr hyn rydym ni'n ei gynnig yn ymateb i anghenion y cymunedau rydym ni'n eu gwasanaethu ac rydym yn chwilio am ffyrdd o addasu a datblygu'n barhaus er mwyn ymateb i flaenoriaethau sy'n newid.

Caiff hyn ei gryfhau gan y perthnasoedd gweithio cadarnhaol sydd gennym gyda'n hysgolion a'n dulliau gweithio cydgysylltiedig ar draws gwasanaethau.

Byddem yn croesawu mynegiadau o ddiddordeb gan Seicolegwyr Addysg profiadol sy'n barod i ymgymryd â gwahanol feysydd arbenigedd ac sydd wedi ymrwymo i fod yn rhan o'n tîm brwdfrydig a gwybodus.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:

Catherine Webster, Prif Seicolegydd Addysg

( Catherine.webster@conwy.gov.uk / 01492 575082 )

Gofynion y Gymraeg:

Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol lefel 4 ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.

Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.

Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.

Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).

Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.

This form is also available in English.