MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Medi, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd - Dechrau'n Deg swyddi 30 awr

Adran addysg ac ymyrraeth gynnar

G07 - £31,537 - £33,143

Cyfnod Penodol tan 31/03/2028, 2 x 30 awr yr wythnos

Mae Dechrau'n Deg yn gynllun gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnig cyfle i wneud gwahaniaeth i blant dan 4 oed a'u teuluoedd sy'n byw mewn ardaloedd penodol yn Wrecsam ac sydd â'r angen mwyaf am gymorth.

Mae cyfle cyffrous i Weithiwr Cymorth i Deuluoedd profiadol ymuno â thîm amlddisgyblaethol cyfeillgar ac arloesol o weithwyr proffesiynol iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg i ddarparu gwasanaeth ymweld â'r cartref dwys i blant a theuluoedd yn Wrecsam.

Bydd gennych gymhwyster NVQ/QCF/CACHE Lefel 3 perthnasol yn ymwneud â Phlant/ Iechyd/Gofal Cymdeithasol neu gymwysterau cyfwerth eraill.

Mae hwn yn gontract cyfnod penodol tan 31/03/2028, gyda'r posibilrwydd o estyniad yn amodol ar gyllid grant.

Byddwch yn cynnal adolygiadau datblygiadol plant, darparu cymorth dwys i blant dan 4 oed a'u teuluoedd yn y cartref ac yn darparu ar gyfer rhaglenni grwpiau rhieni.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Vicki Sadowska neu Bethan Holman, Rheolwr Cymorth i Deuluoedd a Rhianta, Dechrau'n Deg ar 01978 268850.

Mae'r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.