MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £25,372 - £49,934 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 05 Medi, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £25,372 - £49,934 / blwyddyn
Darlithydd mewn Rhifedd (Sgiliau Hanfodol a TGAU Mathemateg)Application Deadline: 5 September 2025
Department: Sgiliau
Employment Type: Cyfnod Penodol - Rhan Amser
Location: Campws Graig
Reporting To: Pennaeth Dysgu Gydol Oes
Compensation: £25,372 - £49,934 / blwyddyn
DescriptionMae'r Bwrdd Corfforaethol wedi ymrwymo i benodi staff a fydd yn dangos menter a brwdfrydedd, ac a fydd yn ychwanegu ymhellach at enw da'r Coleg trwy ymrwymiad i weithio fel aelod o dîm a chynhyrchu gwaith o ansawdd uchel. Yn benodol, staff sydd yn gallu datblygu ein cenhadaeth ymhellach, sef: Ysbrydoli Dysgwyr, Cyflawni Potensial, Ennill Rhagoriaeth. Mae'r swydd yn darparu cyfle cyffrous a llawn her i unigolyn rhagweithiol a dyfeisgar.
Mae'r coleg yn ymrwymedig i gyflawni rhagoriaeth a darparu'r gwasanaeth gorau un i'n dysgwyr. Wrth wraidd ei swyddogaeth y mae'r angen i fynd ati'n gyson i wella gwaith dysgu ac addysgu fel modd o wella safonau ar gyfer dysgwyr, a hynny gan gynnig y profiad gorau un i'n staff o safbwynt ymarfer proffesiynol.
Mae'r swydd Darlithydd mewn Llythrennedd yn bwysig iawn i ddyfodol y Coleg. Yn hyn o beth, rydym yn dymuno penodi unigolyn sydd â'r angerdd, y brwdfrydedd a'r ymrwymiad angenrheidiol i sicrhau bod y safonau uchaf un yn cael eu cyflawni yn y ddisgyblaeth hon.
Mae'r penodiad ar gyfer darlithydd llawn amser dros dro i ymuno â'n tîm Sgiliau Craidd i gyflwyno Sgiliau Hanfodol a TGAU Saesneg i ddysgwyr 16-18 oed ar raglenni astudio llawn amser yn y coleg.
Rydym yn chwilio am athro/athrawes Saesneg sy'n frwdfrydig ac yn benderfynol, i sicrhau bod y dysgwyr yn ymroi i'r pwnc ac yn cael eu paratoi ar gyfer cael eu hasesu. Mae gradd mewn Saesneg (neu bwnc cysylltiedig) yn hanfodol, ynghyd ag o leiaf Lefel 2 mewn Mathemateg. Byddai profiad mewn amgylchedd tebyg, yn ogystal â statws athro cymwys, yn ddymunol.
Os ydych yn chwilio am her yn eich gyrfa, mae'r cyfle hwn yn addo bod yn werthfawr a boddhaus. Yn y rôl hon byddwch yn dysgu ac yn cefnogi ystod amrywiol o bobl ifanc, i'w galluogi i gyflawni cam nesaf eu gyrfa neu eu dyheadau addysgol.
Bydd arnoch angen sgiliau cyfathrebu neilltuol ynghyd â'r gallu i flaenoriaethu a chydlynu llwyth gwaith heriol.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Ymgymryd â'r gwaith o gynllunio, addysgu, ac asesu rhaglenni astudio sy'n arwain at gymwysterau o fewn Sgiliau Hanfodol Cymru a TGAU Saesneg.
- Bod yn aelod o Dîm Ansawdd y Coleg a gweithio gyda chydweithwyr i sicrhau ansawdd y rhaglen Sgiliau Hanfodol Cymru a TGAU Saesneg yn y Coleg.
- Gweithio gyda'r Pennaeth Dysgu Gydol Oes i roi'r arferion dysgu ac addysgu gorau ar waith i gyflwyno strategaethau llythrennedd y Coleg.
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol
- Cymhwyster addysgu (Os nad ydych yn meddu ar gymhwyster addysgu ar ddyddiad dechrau'r swydd, bydd hi'n ofynnol i chi ennill TAR o fewn 2 flynedd i'r dyddiad hwn)
- TGAU Saesneg neu Lefel O - o leiaf Gradd C neu (CSE Gradd 1 cyfwerth)
- TGAU Mathemateg neu Lefel O - o leiaf Gradd C neu (CSE Gradd 1 cyfwerth)
- Tystiolaeth ddogfennol o Ddatblygiad Proffesiynol priodol
- Sgiliau llythrennedd a rhifedd da a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Dealltwriaeth gadarn o lythrennedd digidol
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda dysgwyr a chydweithwyr
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Prydlondeb ardderchog a'r gallu i weithio'n hyblyg
- Profiad addysgu perthnasol
- Dealltwriaeth dda o faterion perthnasol mewn addysg ôl 16
- Hanes profedig o lefelau uchel o gyrhaeddiad dysgwyr
- Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
- Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
- Tystiolaeth o olrhain a monitro perfformiad dysgwyr yn effeithiol
- Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.
Buddion
- Byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 59 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein