MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Bryn Castell,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £23,721 - £24,518 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Medi, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cover Supervisor - Ysgol Bryn Castell - Fixed Term

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £23,721 - £24,518 y flwyddyn

Cover Supervisor - Ysgol Bryn Castell - Fixed Term
Disgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos

Goruchwyliwr Llanw dros dro i gyflenwi ar secondiad o hyd at ddeuddeg mis

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Bryn Castell Park yn dymuno penodi Goruchwyliwr Llanw brwdfrydig, cydwybodol a gofalgar i weithio mewn tîm addysgu llawn cymhelliant a chyfeillgar. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn defnyddio dull cadarnhaol, arloesol, sy'n canolbwyntio ar atebion i hyrwyddo dysgu, ymgysylltu, presenoldeb a llesiant disgyblion, gan eu cynorthwyo i weithio tuag at gyflawni hunanreoleiddio ac annibyniaeth.

Mae Ysgol Bryn Castell (YBC) yn ysgol ddydd gymunedol arbennig a gynhelir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy'n darparu addysg i ddisgyblion 7 i 19 oed sydd ag Anawsterau Ymddygiadol, Emosiynol a Chymdeithasol (AYECh) cymhleth gan gynnwys awtistiaeth ochr yn ochr ag anawsterau dysgu penodol ac anghenion dysgu ychwanegol (ADY) eraill.

Bydd gennych brofiad o weithio gyda disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ynghyd â gwybodaeth a dealltwriaeth o'r cwricwlwm a strategaethau/rhaglenni dysgu perthnasol i ddisgyblion ag ADY. Mae hwn yn gyfle gwych i'r rhai sydd yn awyddus i ddatblygu eu taith ddysgu broffesiynol ymhellach mewn amgylchedd cynhwysol a gofalgar sy'n angerddol am alluogi pobl person ifanc i gyflawni ei botensial llawn.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 10 Medi 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 11 Medi 2025

Dyddiad y Cyfweliad: Wythnos yn Dechrau 15 Medi 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person