MANYLION
  • Lleoliad: Pen-y-bont ar Ogwr,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Heb gymhwyso: £25,371 - £29,942 y flwyddyn (pro rata)Cymwysedig: £32,304 - £49,934 y flwyddyn (pro rata)
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

0.8 Darlithydd mewn Sgiliau Byw'n Annibynnol

Coleg Penybont

Cyflog: Heb gymhwyso: £25,371 - £29,942 y flwyddyn (pro rata)Cymwysedig: £32,304 - £49,934 y flwyddyn (pro rata)

Darlithydd mewn Sgiliau Byw'n Annibynnol
0.8 cyfwerth ag amser llawn (29.6 awr yr wythnos) a Pharhaol
Heb gymhwyso: £25,371 - £29,942 y flwyddyn (pro rata)Cymwysedig: £32,304 - £49,934 y flwyddyn (pro rata)

Ydych chi'n angerddol am wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol? Rydym yn chwilio am Ddarlithydd i ymuno â'n tîm Sgiliau Byw'n Annibynnol (SBA), a fydd yn cyflwyno ystod amrywiol o gyrsiau llawn amser a rhan-amser. Bydd ein myfyrwyr, sy'n dod o amrywiaeth o gefndiroedd ac oedrannau, yn archwilio cwricwlwm.

Fel aelod allweddol o'n tîm, byddwch yn gyfrifol am gylch llawn cyflwyno'r cwricwlwm: cynllunio, datblygu, gwerthuso ac addysgu. Rydym yn chwilio am rywun sydd â gwybodaeth gyfredol a phrofiad ymarferol o addysgu oedolion a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Gofynnwn fod gennych wybodaeth dda am gwricwlwm SBA a'r pedwar colofn dysgu, ynghyd â thystysgrif TAR a chymhwyster perthnasol, neu fod yn barod i ennill y rhain. Gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol a'r gallu i uniaethu â phoblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr, byddwch yn ymroddedig i ysgogi pob dysgwr.

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a byddwn yn eu hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Sylwch, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.